Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. IONAWR, 1909. A LLYFR ARALL A AGORWYD." (Dat. xx, 12). 1 909. WELE eto yn dy law Lyfr,—nas gwnaed gan ddynion ; Rhwymwyd yn y byd a ddaw Ei ddalennau gwynion ; Nid oes llinell nac ystaen Ar y dail, os creffi; Maent o un i un o'th flaen, Mewn sancteiddrwydd, ac mewn graen,— Tithau wyt i'w llenwi. Cymer bwyll wrth droi y dail, Ac na fydd ddidaro Gyda'r un,—am na chei ail Gynnyg byth ar honno; Rhifa hwynt o un i un, A phan ddoi i'r seithfed, Dyna ddalen Duw Ei Hun.— Plyg i lawr, dos ar dy lin, Mae Efe'n dy wylied. Deuddeng mis a gei i'w troi, Dalen bob diwrnod ; Drws pob un sydd i'w ddatgloi, Sel pob un i ddattod : Gwylia beth a roi i lawr Ar bob sanctaidd ddalen ; Canys pan y fflamia'r wawr Rhwng colofnau'r Frawdle fawr,— Caiff yr oll ei ddarllen. GWYLFA.