Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1908. LLE ATHRAWIAETH YNG NGWEINIDOGAETH Y GAIR. GAN Y PARCH. LEWIS EYANS, CAPEL-Y-WIG. R ydym yn dra chyfarwydd a'r modd y gwalianiaethir rhwng yr athrawiaethol a'r ymarferol, ac yr ydym yn cymeryd mai wrth athrawiaeth yn y penawd hwn y golygir dysgeidiaeth am fater neu berson. Cenhadaeth Athrawiaeth ydyw ceisio dangos beth sydd wirionedd ; ac o'r tu arall ein dyledswydd ydyw bod yn ffyddlon i wirionedd. Cawn i'r Athrawiaeth gael y sylw penaf yn Ngweinidogaeth y Gair o ddyddiau yr apostolion i lawr. Y bregeth Gristionogol gyntaf ydoedd eiddo Petr ar ddydd y Pentecost; ac y mae hono yn Uawn Athrawiaeth — athrawiaeth am yr Ysbryd Glan, am adgyfod- iad Crist; ac am faddeuant pechodau yn enw Crist. Cawn fod aelodau Eglwys y Pentecost yn parhau yn athrawiaeth ac y'nghym- deithas yr apostolion. Cawn y'mhellach i'r apostolion yn gynar yn hanes yr eglwys roddi heibio wasananaethu byrddau, íel y gallent barhâu mewn gweddi a gweinidogaeth y Gair. Cyfrifìd yr henuriaid oedd yn poeni yn y Gair a'r Athrawiaeth yn deilwng o barch dau-ddyblyg. Dynion sanctaidd Duw ydoedd yr apostolion, ac yr oeddynt yn llefaru megys y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân ; ond nid ydym i feddwl wrth hyn mai gwaith rhwydd a rhad iddynt ydoedd pregethu y Gair, a dysgu'r Athraw- iaeth i'r eglwysi. Nid peirianau goddefol oeddynt o dan weith- rediad yr Ysbryd Glan ; ond yr oeddynt yn talu toll drom wrth gydweithio a'r Ysbryd fel cyfryngau dadguddiad. Amodau cyd- weithrediad a'r Ysbryd ydyw calon bur, meddwl effro a chymeriad