Skip to main content

Y DIWYGIWR. MEDI, 1908. Bilujybrau Äthrylíth. ANN GRIFFITHS A JOHN HUGHES, PONTRORERT. -o- Cyn hanner awr wedi naw bore Iau, Mehefìn 25ain, yr oedd tri o honom yn muarth Dolwar Fach, yn Maldwyn, yn y llecyn sancteiddiaf a feddai'r holl fro, yn edrych ar lwybrau y rhiain a ysbiydolwyd i ganu'n ddigymar am ei Cheidwad: — " Rhyddbawr caethion, Meddyg cleifìon, Ffordd i Seion union yw; Ffynon loyw, Bywyd meirw, Arch i gadw dyn yw Duw." Llawer gwaith y buom ar ein ciwydr yn Maldwyn yn syllu i gyfeiriad y bryniau oedd yn cadw'r amaethdy enwog yn eu col; ac yn dyheu am gael cyfie i wel'd y capel yn Nolanog ac i wel'd y ffermdy ei hun ac i wel'd y bedd tawel tawel yn Llanfihangel; eithr ni ddaeth egwyl hyá eleni. Y raae'r Sir hcn wedi rhoi i Gymru ei phrif arlunydd— Richard Wilson—canys llanc o Benegoes ydoedd; ond mwy nac arlunydd a roed ganddi i'n gwlad pan aned Ann Griffiths. . Byddwn bob amser yn meddwl mai'r ddau le tebycaf i Fethlehem a Nazareth yn ein gwlad ni yw Dblwar Fach a Chefnbrith. Yn y naill j caed salm-wraig heb ei bath, ac yn y llall y caed y mwyaf tebyg i Grist o holl feibion Cymru—John Penri. Yr oedd y Parch. Edward Griffith o Feifod wedi addaw ein dreifio yn ei gerbyd i Ddolwar; ac am saith o'r gloch y bore, wele swn olwynion a dwndwr per carnau yr anifail wrth y drws. Cychwyn- asom yn ddioed—y Parch. R. P. Williams a minnau—gyda'r gyriedydd hynaws. Yr oedd y ffordd yn sech a glan,—y meusydd yn îr a pharod i'r bladur. Ffwrdd a m yn y cerbyd esmwyth, a merlen lyfndew loyw,