Skip to main content

Y DIWYGIWR. Hydref, 1895. CYMDEITHAS A DUW. Gan y Parcii. J. Foulkes, Aberafon. [Papyr a ddarllenwyd yn Nghynadledd Cyfarfod Chtuarterol Cyfundeb Deheuól Morganwg, fel agoriad i ymddyddan ar y benod gyntaf yn Epistol cyntaf Ioan.'] GWELIR, ond sylwi yn fanwl, fod tebygrwydd tarawiadol rhwng 7 benod hon a rhanau arweiniol yr Efengyl yn ol loan. Ceir yr un geiriau cyfoethog yn dwyn yr un ystyron yn y ddau le.—' Ýn y dechreuad,' ' Gair,' 'Bywyd.' 'Goleuni,'&c. Yn y naill a'r llall cawn olwg ar dderbynwyr crediniol y dystiolaeth am Grist yn dyfod i berthynas werthfawr a chymdeithas agos a Duw. Yn yr Efengyl cawn Ioan yn dymöhwelyd y cyfeiliornadau am gyn-hanfodiad y Mab fel Person Dwyfol ac yn yr Èpistol, cawn ef yn gwrth-dystio, mewn modd pendant, ynerbyn y rhai a wadant wir ddynoliaeth y Gwaredwr. Prif feddylddrych y benod hon, ac yn wir, prif feddylddrych Efengyl Ioan, a'i Epistolau a Llyfr y Dadguddiad yw— OíMDEITHAS A DüW. Gallem feddwl ei fod wedi ysgrifenu yr oll i egluro a chadarnhau y gosodiad, " A'n cymdeithas ni yn wir sydd gyda Tad, a chyda'i Fab Ef, Iesu Grist." Apostol cariad oedd Ioan. Teimlodd guriadau dwyfol y cariad tragywyddol pan y pwysodd ei ben ar fynwes santaidd y Gwaredwr trugarog, a bỳth wedi hyny nis gallai lai na ohyboeddi, '•' Duw, cariad yw." Hanfod pob cymdeithas yw cariad, a phrif nodwedd y Gymdeithas uchaf yw cariad. Cawn y gair ' cymdeithas' bedair o weithiau yn y benod hon, a chredwn nas gallwn ar hyn o bryd wneuthur dim yn well na sylwi arni fel y mae yn egluro (ymdeithas y saint a Duw. Mae y gymdeithas hon yn ol Ioan, yn sylfaenedig ar broíìad personol o Grist, " Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom a'n llygaid, yr liyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylaw am Air y bywyd." Cyfeiria yn ddiameu at gymdeithas bersonol yr Apostolion a Christ ar y ddaear. Cawsant gyfleusderau lluosog o ddechreuad ei- fvwW! ntrV«i-»orJ/1iiQ i'rrr aA-na\\nA -fa\ Axrn (ranrinnfnìArtl----nîA i&ii+h -nirl ntratrt\A ''