Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAGFYR. 1888. tótoíjj g $Ät|, GAN Y PARCH. W. DAYIBS, LLANDELO. MAE gafle y Sabbath yn y Beibl yn hanes crefydd ddatguddiedig yn y gorphenol, ac yn nglyn â'i llwyddiant yn y dyfodol, yn rheswm digonol dros roddi "Cadwraeth y Sabbath" yn destyn papyr i'w ddarllen, a chael siarad rhydd a chrefyddol arno yn y cyfarfod hwn. Mae y Sabbath yn sefydliad cyfoed â dynoliaeth. Dyma y diwrnod cyntaf cyflawn a fwynhaodd Adda ar ol ei greadigaeth—yn etifeddiaeth feddyliol a moesol iddo ar ddechreuad ei fywyd—yn gysegriad ei berson, ei gymeriad, a'i fywyd i Dduw, ac yn awgrym a gwers iddo, ac i'w hiliog- aeth fod y Sabbath a'i waith i gael blaenoriaeth ar ddyddiau a gorchwylion ereill bywyd. Gwnawd- dyn—prif greadur y greadigaeth—ar y chwechfed dydd, ac ymddengys mai dyma weithred olaf y Creawdwr ar y dydd hwn —yn goron addurnol ei weithredoedd ; a'r dydd canlynol, y seithfed, ydoedd y Sabbath—brenin y dyddiau, a chysegr santeiddiolaf yr wythnos greadigol, yn nghyda wythnosau dilynol y byd. " Duw a fendigódd y seithfed dydd, ac a'i santeiddiodd ef, oblegyd ynddo y gorphwysasai oddi- wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i'w wneuthur" (Gen. ii. 3). Cawn brofion aml, ac awgrymiadau lluosog fod y Sabbath wedi ei sefydlu yn gydnabyddiedig, ac yn cael ei gadw cyn rhoddiad y gorchymyn nodedig yn y deng air deddf ar Sinai—" Cofia y dydd Sabbath i'w sant- eiddio ef " (Ex. xx. 8). Mae hanes Noah a'r golomen yn yr Arch yn adeg &diluw yn awgrymiadol iawn, oblegyd mynegirmai yn wythnosol y byddai oah yn anfon allan y golomen i edrych a dreiasai y dyfroedd.: *' Ac efe a arosodd eto saith niwrnod ereill" (Gen. viii. 10, hefyd adnod 12). Yn yr ymddyddan a fu rhwng Jacob a Laban yn nghylch Rahel a Leah, cawn yr un peth yn dyfod i'r golwg. (i Cyflawna di ẃythnos hon" medd Laban, "a ni a roddwn i ti hon hefyd " (Gen, xxix. 27), yi hyn a brawf fod wythnosau yn adnabyddus yn y cyfnod boreuol hwn, yr hyn sydd yn hanfodol gysylltiedig â'r Sabbath; ac nis gallwn gyfrif am y ffaith a'r arferiad ond oddiwrth waith y Creawdwr yn creu y byd mewn chwe diwr- nod, ac yn gorphwys ar, a neillduo y seithfed i fod yn ddiwrnod gorphwysfa santaidd iddo ei Hun, ac i ddynion, ac felly yn achos bodolaeth trefioiant wytbnosol amser. 56