Skip to main content

TACHWEDD. 1888- ŴpJaM §stagkrl. GAN Y PARCH, JOHN THOMAS, D.D., LIYERPOOL. " Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, acj*na y daw y cynhauaf ? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd withych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meusydd; canys gwynion ydynt eisoes i'r cynhauaf. A'r bwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn cesglu flrwyth i fywyd trajíywyddol; fel y byddo i'r hwn sydd yu hau, ac i'r hwn sydd yn medi, lawenychu yn nghyd. Canys yn hyn y mae y gair yn wir, Mai arall yw yr hwn êydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi. Myfi a'ch anf onais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch; ereill a lafuriasant, a chwithau aathoch i mewn i'w Uafur hwynt."— Ioan iv. 35-38. Mor fywiog a chyffrous yw yr olygfa a ddygir yma ger ein bron. Yr ydyni wedi ein dwyn i faes cynhauaf, lle y mae pob peth yn llawn prysur- deb. Nid oes ond un amcan yn ngolwg pawb, ac aberthir pob peth er ei gyrhaedd. Ceir yma enghraifft darawiadol iawn o lawenydd amser cynhauaf. Llefarwyd y geiriau gan yr Arglwydd Iesu Grist wrth ei ddysgyblion ar derfyniad yr ymddyddan rhyfedd a fu rhyngddo â"r wraig o Samaria, ac y mae yn eglurhad hapus iawn o hono. Ni chymerodd yr holl ymddyddan ond amser byr ; ond mewn amser byr gwnaed gwaith mawr. Tebyg fod yr holl ymddyddan wedi ei gofnodi yn ífyddlon. Yr oeid y wraig, ar ei adael, wedi gweled ei ogoniant Ef, pan ddychwelodd y dysgyblion o'r ddinas, lle yr anfonwyd hwy i brynu bwyd. " A bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddyddan â gwraig," oblegyd yr oedd hyny yn hollol wahanol i arfer y Eabbiniaid ; ond buont yn ddigon call ac yn ddigon boneddig- aidd i beidio gofyn, •' Beth a geisi, neu paham yr wyt yn ymddyddan â hi?" Gallwn gasglu ei fod ar y pryd mewn dwfn fyfyrdod ar yr hyn a gymerasai le, neu fwynhad yn y rhagolwg ar yr hyn oedd i gymeryd lle. Gadawyd Ef felly am enyd. O'r diwedd torodd un o'r dysgyblion ar y dystawrwydd, gan ddywedyd, " Eabbi, bwyta." " Y mae genyf fi fwyd i'w fwyta, yr hwn ni wyddoch chwi oddiwrtho," meddai yntau. " A ddwg neb iddo ddim i'wfwyta î" meddent wrth eu gilydd. " A roddodd y wraig yna, tybed, fwyd iddo f* Mor wir oedd y gair, " Y mae genyf fi fwyd i'w fwyta, yr hwn ni wyddoch chwi oddiwrtho. Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i, a gorphen ei waith ef." Fel pe dywedasai," Yr wyf newydd gael pryd da o flasus fwyd, y fath a garaf, ac y mae fy enaid yn llawn. Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw y cynhauaf." Dyma yr amser cyflredin rhwag