Skip to main content

GORPHENHAF, 1888. Y MODD I'W CARIO YN MLAEN, A'U GWNEUD YN FWY CYFADDAS AC EFFEITHOL I GWRDD AG ANGEN YR OES. GAN Y PAB.CH. R. MORGAN, ST. CLEABS. Y mae gweinidog parchus y gynulleidfa hon wedi dymuno arnaf i draddodi anerchiad neu ddarllen papyr ar y mater uchod yn y gynadledd hon. Y mae y testyn yn cydnabod fod genym ein huchelwyliau. Y mae y cyf- arfodydd cyfnodol yma yn bethau angenrheidiol, buddiol, ac anwyl iawn. Nid wyf yn gwybod y byddai yn bosibl i gario yn mlaen amcanion cre- fyddol, cymdeithasol ac enwadol yn dda hebddynt. Y maent yn gyfnodau ag sydd yn tori ar draws unffurfiaeth ein Uafur crefyddol cartrefol, ac y maent yn rhoi mantais a chyfleusdra i frodyr a chwiorydd y tuallan i gylch eu heglwysi eu hunain i ymgydnabyddu â'u gilydd. Yr oedd gan yr eglwys Iuddewig eu huchelwyliau cyínodol yn cael eu cynal yn g1 gor- chymyn ac ordeiniad Duw. Yr oedd ganddynt Wyl y Pasc, Gwyl y Pentecost, Gwyl y Pebyll, Gwyl y Cymod, Gwyl y Juwbili, &c. Yr oedd y rhai hyn wedi eu sefydlu gan Dduw gyda'r amcan i gadw yn fyw yn mhlith y genedl adgofion o'i weithrediadau i'r tadau yn y cyfnodau boreuol o'u hanes. Yr oeddynt yn goffadwriaeth o dderbyniad bendithion gan Dduw yu y gorphenol. Yr oedd tuedd ynddynt i ladd bydolrwydd, ac i ysgafnhau beichiau y tlawd a'r helbulus. Yr oedd eu cynal yn mlaen o oes i oes wedi ei fwriadu i ddyfnhau ar feddyliau y genedl argrafnadau da. Ond dengys eu hanes eu bod yn eu treigliad trwy yr oesau yn colli yr yni ag oedd yn eu nodweddi mewn oesau boreuach. Deuai y bobl at eu gilydd fel cynt, ond yn aml i amcanion gwahanol iawn i'r rhai oedd mewn golwg wrth eu sefydlu. Yr oedd cyfnod eu cynaliad, a'r enwau arnynt, yn parhau yr un, ond yr oedd eu cymeriad moesol, eu hysbryd, eu heffaith, a'u dylanwad wedi Uwyr gyfnewid. Yn lle bod yn faeth i rinwedd, daeth- antifodyn achlysuron Uawer o ddrwg. Yr oedd llwch traddodiad y