Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAI, 1888. [ẅx%òt$mt1$ g §#L GAN CYNFAL. •• Yr oedd rhyw wr goladog, ao a wisgid â phorphor a llian main," &c— Luc xvi. 19—31. Adnabyddir geiriau ein testyn wrth yr enw, Dameg y goludog a Lazarus. Nid oes drwy y Beibl, o gwr bwy gilydd iddo, eiriau mwy ofnadwy nag a geir yn y ddameg hon ; er mai dros wefusau yr addfwyn a'r gostyngedig o galon y djferasant, yr hwn " ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd lin yn mygu," yr hwn y mae ei dynerwch, ei dosturi, a'i gariad, yn ddi- gyffelyb. Teifl y ddameg, a'i chymeryd gyda'i gilydd, fwy o oleuni ar y sefyllfa ddyfodol na dim arall a lefarwyd hyd y nod gan y Gwaredwr ei hun. Tywyll iawn oedd y byd a ddaw i bawb yn ein bjd ni. Nid oedd neb erioed wedi gallu codi cwr y llen i gael cipdrera ar ei ddirgelion. Ni ddychwelasai neb i blith y byw i ddyweyd dim o'i helyntion. Hyny o oleuni a daflesid gan ddadguddiad ar y mater, nid oedd ond gwan. Hynod o anmherffaith ydoedd syniadau dynion am y byd yr oeddynt yu prysuro iddo. Ond dyma oJeuni mwy o'r diwedd wedi ei gael. Y mae dameg ein testyn, fel tywyniad mellten yrTy nos, wedi goleuo tipyn ar y tywyllwch oedd yn cau am danom o bob cyfeiriad. Dengys beth yw tyngeJ union- gyrchol, a rhagolygon diderfyn, pob un a gollir i ni yn angeu. Yn ei goleuni, gwelwn beth yw hanes yr eneidiau aneirif sydd wedi gadael y ddaear, i fodoli yn ysbrydion noeth mewn eilfyd. Dysgir ynddi y gwir- ioneddau a ganlyn: — I. Fod sefyllfa yr enaid yn y byd a ddau yn sefyîlfa o ymwybyddiaeth. Pa ddylanwad a gaiff cyfnewidiad angeu ar yr enaid, nis gallwn ddyfalu; ond pa ddylanwad bynag a gaiff arno, y mae yn eithaf amlwg nas gall ei am- ddifadu o'i ymwybyddiaeth. Y mae cysylltiad agos ac anwyl iawn rhwng corff acenaid; a sut y gall yrenaid weithredu ar wahan oddiwrthy corffr-r- sut y gall fod yn ymwybodol o boen ua mwynhad, sydd ddiigelwch hollol i ni ar hyn o bryd. Mewn cysylltiad â chorff yn 'unig y mae genym ni brofîad o weithrediadau yr enaid; ac y mae y syniad o fodolaeth ymwyb- odol allan o'r corff yn peri dyryswch i lawer ymenydd ymchwiigar. Vn wir, y mae Uawer o ddynion, ag y rhaid eu cydnabod yn ddynioü 21