Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAWRTH, 1888. §tóìŵmiìr p ^jgtópŵìr §tîûò. GAN Y PARCH. W. GILBEBT EYANS, COITY. " Tmogelwch rhag gau-broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yn ngwisgoedd defaid, ond oddimewn bleiddiaid rheibus ydynt hwỳ.—Mat. vii. 15. Mae yr Arglwydd Iesa yn yr adnodau blaeoorol wedi bod yn siarad am y ddwy ffordd sydd yn arwain i fyd arall, gan gyferbynu eu pyrth, eu teith- wyr, a'u terfyniad. Gan fod dwy ffordd i fyd arall, a'u pen draw mor wahanol, ac mor ofnadwy bwysig, cyfyd petrusder yn meddwl pob dyn ystyriol rhag ofn nad ydyw ar y ffordd sydd yn diweddu mewn gwynfyd. Er cymaint yw annedwyddwch y byd yma, y mae syniad am well byd a gwaeth byd yn gryf mewn dyn, ac y mae pawb am gael y goreu yr oehr draw, gan nad pa ffordd tyddant yn deithio yr ochr yma; ond dengys yr Athraw Mawr fod yn rhaid bod ar y ffordd iawn yn y byd hwn cyn cỳr- haedd "y bywyd " yn y byd a ddaw; ac felly y mae yn or-bwysig i fod yn yr iawn gyfeiriad, hyd y nod pan yn cychwyn camrau cyntaf bywyd o ymwybyddiaeth, a bywyd o gyfrifoldeb, a theimlo hefyd yn bryderus drwy gydol y daith rhag ofn ein bod yn ein twyllo ein hunain, neu gael ein twyllo gan ereill, ar fater mor annhraethol o bwysig. Mae Duw wedi darparu cyfarwyddwyr o'i drefniad a'i anfoniad Ef ei huu i gynorthwyo dynion i ddyfod i'r ffordd iawn, a'u cadw arni nes myn- ed mewn i'r wlad lle nad oes perygl i fyned ar gyfeiliorn. Proffwydi oedd yr arweinyddion dan yr Hen Destament, ac Apostolion a gweinidogion o dan y Newydd. Ond wedi i bechod ddyfod i mewn i lywodraeth Duw, y mae pob peth da yn cael ei ffugio a'i ddynwared. Dywed yr Ysgrythyr fod Satan yn ymrithio fel angel y goleuni. Sonia am ^aîí-broffwydi, gau- Gristiau, ^aw-Apostolion, ^aw-lwybrau a ^aw-noddfeydd. Ffugia dynion arian mewn trafnidaeth, rhinweddau moesol mewn cymdeithas, a grasusau yr Yrbryd a ffugiant yn yr eglwys. Ac y mae hyd y nod natur fel o dan y swyn-gyfaredd, canys cynyrcha efrau mor debyg i wenith, grawnsypiau gwenwynllyd mor debyg i'r melus-win, ac afalau Sodom mor debyg i ffrwythau pur paradwys! Priodol iawn y dywedai yr Iesu, " Ymogelwch rhag gau-broffwydl" Gwyddai yn dda am yr arch-dwyllwr a'i ddeiliaid twyllodrus, a thosturiai yn iawr wrth y rhai a ddelid ganddo drwy ei gyfrwysdra. Peth ofnadwy yw cael arweinydd twyllodrus ;—anioybodus ac anfedrus sydd ynddigon drwg,— li