Skip to main content

RHAGFYR, 1885. IttWfi g "§ffoy$tt.n GAW Y. PAROH, T. DAYIES, LLANELLI, Yn mis Awst, 1835, yr ymddangosodd y rhifyn cyntaf o'r Diwygiwr fel y mae blwyddyn ei Jubili wedi dyfod; ac yr wyf heddyw yn teimlo chwant taflu cipdrem adolygiadol fer ar ei hanes. Mae llawer o gylchgronau a newyddiaduron a wnaethant eu hymddangosiad ar ei ol ef wedi eu hen gladdu yn mynwes dawel a dystaw ebargôf; ond mae y Diwygiwr yn parhau i fyw yn hollol fachgenaidd heb un arwydd o hen- aint na methiant yn ganfyddadwy arno. Yr wyf wedi arfer ei ddarllen bellach, fis ar ol mis, am oddeutu 44 o flynyddau; a chefais y pleser a'r drafferth o'i olygu am flynyddau lawer. Y person a ddygodd yr hen Gyhoeddiad enwog i'm sylw gyntaf oedd Mr. George Sibbering, yr hwn oedd yn ddiacon a dosbarthwr y Diwygiwr yn Bethania, Dowlais ; mae genyí barch mawr i'w goffadwriaeth am hyny a llawer o bethau ereilí. Ac yr wyf yn credu yn gryf y dylai personau o wybodaeth a phrofiad yn yr eglwysi ymdrechu cael allan a ydyw yr ieuenctyd yn darllen, a pha beth a ddarllenant. Gallant drwy hyuy wneud llawer er dylunio eu deall a chref- yddoli eu meddyliau. Y Beibl, yn ddiau, ddylai fod llyfr efrydiaeth benaf ieuenctyd ein heglwysi; ac wedi hyny Jlyfrau ereill fyddo yn gynorthwyol iddynt i'w ddeall. Mae gwyddoniaeth yn ei holl ganghenau yn swynol i mi. yn ol yr ychydig bach wyf wedi ddarllen ac efrydu arni; ac y mae ei swyn penaf yn gynwysedig yn y goleuni a dafla ar weithredoedd a Llyfr Duw. A dylai ein hieuenctyd hefyd ddarllen y newyddiaduron; nid er mwyn y mwrddradau a'r indecení assaulis, &c, a gofnodir mor aml yn- ddynt, ond yn benaf er mwyn deall gwladyddiaeth, a phethau ereill sydd yn ychwanegu gwybodaeth, yn puro meddyliau, ac sydd yn cynhyrfu gweithgarwch dyngarol a Christionogol y darllenwyr. Ac y mae y DlWYGIWR wedi chwareu ei ran yn dda yn y cyfeiriad hwn. Ceir yn y rhifynau cyntaf Bregethau, Eglurhadau Ysgrythyrol, Traethodau ar bynciau Crefyddol a Gwyddonol, Barddoniaeth, Crynodeb Enwadol, Gwladyddiaeth, Hanesion Tramor, Cofiantau, y Genadaçth, &a, &c. Acy mae y Diwygiwr 56