Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TACHWEDD, 1885. ìferfir ülm ê$jjxtÉiâk GAN CYNFAL. Mynai dysgyblion Iesu Grist wahardd y rhai oedd heb fod yn dilyn gyda hwynt i fwrw allan gythreuliaid. Ac y mae hi yn ddadl boblogaidd hyd y dydd hwn, Pwy sydd â hawl ganddynt i hyny ì Pe cawsai dysgeidiaeth syml y Gwaredwr fod yn derfyn ar bob ymryson yn nghylch y mater, bu- asai wedi ei benderfynu o'r dydd y codwyd y ddadl gan ei ddysgyblion. Yn ngoleuni ei ddysgeidiaeth Ef gwelwn fod bwrw allan gythreuliaid yn waith i bawb y mae cymhwysder ynddynt ato. Pa mor llawn yw y ddaear o gythreuliaid y mae yn anhawdd dyweyd; ond y mae yn eithaf amlwg ei bod mor llawn o honynt, fel y mae yma ddigon o waith i bawb dynion gyda'u gilydd am amser hir, ac iddynt oll fod ar eu goreu yn y gwaith. Y mae degau o filoedd o'r dynion goreu wedi bod yn ymladd â gallu y ty- wyllwch er's oesoedd lawer, ond ychydig mewn cymhariaeth sydd o'r gwaith wedi ei gyflawni. Mewn gwaith mor fawr a phwysig, ein lle ni ydy w croesawu gyda breichiau agored, bob un y mae ynddo duedd at helpu i'w gwblhau. A dylai pob dyn deimlo ei bod hi yn ddyledswydd or- phwysedig arno i wneud ei ran at wella y byd. Y mae yn perthyn i bawb i wneud yr hyn sydd yn eu gallu tuag at adfer trefn ar y ddaear. Y mae cythreuliaid i'w bwrw allan yn mhob cyfeiriaid; a phwy bynag sydd yn foddlon i droi allan yn enw Iesu o Nazareth i ymladd â hwynt, Duw yn rhwydd iddo. Beth bynag all y darllenydd wneud yn erbyn gallu y ty- wyllwch, ymwroled i'w gyflawni. " Yr hwn a fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ýw iddo." Os ymgymer rhywun â bwrw allan gythreuliaid heb fod ynddo gym- hwysder at y gorchwyl, gellir yn hawdd adael rhwng y cythreuhaid ag ef. Nid ydynt yn foddlon i impyn o'u hiliogaeth eu hunain ì'w ceryddu. Pan y mae un sydd yn fab uffern yn sefyll i fyny i honi awdurdod drostynt, y mae tuhwnt i'w hamynedd i allu ei oddef. Gweision y maent hwy yn ymofyn gael mewn dynion, ac nid meistnaid—rhai 1 ufyddhau ìddynt 51