Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYDREF, 1885. ff ŵgfieiftẁ gifoggiéijg tít gjtoi ^túmmí GAN Y PARCH. THOMAS STEPHENS, B.A., ROSS. ERTHYÜL II. Mae y cyfnewidiadau wneir yn y Cyfîeithad Newydd yn llawer mwy lluosog nag y meddylir. Yn Uyfr G-enesis yn unig cawn dros fil o honynt. Gwir mai bychan yw y cyfnewidiadau, ac nad oes un gwirion- edd yn cael ei golli na'i droi, eto dygant ni yn agosach at y testyn gwreidd- iol, a thrwy hyny yn agosach at feddwl y patriarchiaid, y breninoedd, a'r proffwydi. Rhoddwn ychydig o enghreifftiau o lyfr Genesis :—Pen. i. 5—" A hwyr a fu, a boreu a fu, un dydd." i. 21—"Anghenfilod mawrion y môr." iii. 5_« Y byddwch megys Duw." iii. 8—" Swn " yn lle "llais." iv. 13— " Mwy yw fy nghosb nas gallaf ei ddwyn." iv. 23— " A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd : Adah a Sillah, clywch fy llais ; Gwragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd, Canys mi a leddais wr am fy archolli, A llanc am fy nghleisio." Dyma y dernyn barddoniaeth hynaf yn y byd. Ehoddir yr holl ranau barddonol yn y Cyfieithad Newydd yn llinellau fel yr uchod. ix. 27— *' Helaethed Duw ar Japheth ; Preswylied yn mhebyll Shem ; Bydded Canaan yn was iddo." xii. G— "Hyd dderw Moreh." xiii. 18—"Wrth dderw Mamre." xlix. 5— " Arfau trawsderyweu cleddyfau." 6—"Ac o'u gwirfodd y torasant linynau garau yr ych." 9. Yn lle "hen lew " darllener " Uewes." 10. Yn lle "deddfwr" darllener "ffon y penaeth." Yn lle "cynulliad" darllener "gwarogaeth." Ar ymyl y ddalen ceir y darlleniadau canlyn- ol:—" Hyd oni ddel i Siloh, i dderbyn gwarogaeth y bobl." " Hyd oni ddel ei eiddo i Siloh ac y derbyno warogaeth y bobl." 14. " Yn gorwedd rhwng «Lwy gorlan." Gellir nodi y cyfnewidiadau canlynol yn 11? fr 46