Skip to main content

GORPHENHAF, 1885. ẅfiìrkẃjeí| a ŵfofgìẁ. GAN Y PAEOH, PBOFF, LEWIS, B.A., BALA. YSGEIF II. Pan yn edrych yn frysiog dros ryw rai o'r meusydd lle y dywedir i ni y gwelir gwrthdarawiadau rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, ni sylwn yn gyntaf ar ddechrcuaâ, yr hwn a elwir y greodigaeth iaterol. Y mae Atheistiaeth yn ei gwahanoi ffurfiau, ac o dan wahanol enwau, yn honi yn wyneb-eofn fod yn y fau hon wrthdarawiad difrifol rhwng yr hyn ddywed crefydd a gwyddoniaeth ; ond y mae yn dra amlwg oddiwrth ddysgeidiaeth y gwyddonwyr blaenaí nad oes y fath beth yn bodoli yma, ac y mae yr un mor amlwg a hyny fod enillion penaf crefydd yn y frwydr hon (pe bai yma frwydr hefyd) yn codi o fethiantau gwyddoniaeth. " Pan y mae rheswm yn gorfod tewi, y mae ffydd yn dechreu siarad." Felly, pan y mae gwyddoniaeth yn methu y mae crefydd yn dechreu traethu ei gwersi i'r byd. Oyfaddefa y flaenaf nas gall hi ddangos pa fodd y gall defnydd (<(matter ") a gallu ("force") gael eu creu na'u difodi. Gwyr eu bod yn bodoli, ond nis gwyr pa fodd y daethant i fodolaeth na pha fodd y mae yn bosibl iddynt beidio bodoli, ac nid yw y pwnc olaf un mymrynyn anhawddach yn ei golwg na'r cyntaf. Ni wei un fíordd trwy ba un y gellir ychwanegu atynt na thynu oddiwrthynt. Sylwa gyda manylder a medr mawr ar y gwahanol gyfnewidiadau yr â defnydd trwyddynt. Gwel yn amlwg yr hyn eilw hi yn ei hiaith neillduol ei hun (ac ni chynygir ei chyfieithu yma) " transfoi-matẁn oý energy," ond gwel yr un mor amlwg yr hyn eilw " conseroation of energyP Cyfaddefa hefyd nas gall y defnydd ar ba un yn barnaus yr effeithia gallu o'r tuallan iddo ei hun fod yn dragy- wyddol, ac yn hanfodi o hono ei hun. Oyfaddefa yr un peth am y "gallu," â trwy gyfnewidiadau diderfyn. Yn ei horiau mwyaf difrifol, ac o eneuau ei phrotfwydi mwyaf galluog, cyfaddefa fod cyfnewidioldeb parhaus yn arwydd o ymddibyniad ar yr anghyfnewidiol. " Atheism is unscientífic," medd awdurdod uchel iawn. Rhaid cael Duw neu rywbeth tebyg er iddo 31