Skip to main content

MAI, 1885. GAN Y PARCH. L. JONES, TY'NYCOED, " Dywed wrth fy mrawd am ranu â myfi yr eti£eddiaeth."--Luc xn. 13, Mewn oes ag y mae cymaint o waeddi am " ranu yr etifeddiaeth," ac am gydraddoldeb amgylchiadau, a thra mae pob peth yn ymddangos y bydd rhaid i rywun yn mhob gwlad, ac yn arbenig felly yn Mhrydain, i gymeryd sylw o'r cri, ac ymdrechu gwneud cyfiawnder fel "barnwr " a " rhanwr," nid anfuddiol edryeh ar y modd yr ymddygodd Iesu Grist at yr hwn a wnaeth gais cyffelyb ato, fel y gallom weled pa ran sydd i eglwys Dduw yn hyn o fater. Bhyw un o'r dyrfa a geir yma yn rhoddi ei gais yn llaw yr Iesu i geisio ganddo i ddyweyd wrth ei frawd am ranu ag ef yr etifeddiaeth. Yr oeddy dyrfa yn fawr iawn, yn "fyrddiwn," medd Luc, ac yn " aneirif,-' medd ymyl y ddalen. Yn eu plith yr oedd llawer iawn o amrywiaeth o'r rhagrithiwr Phariseaidd at y pechadur mwyaf digywilydd. Nid annhebyg fod yno rai lled ryfedd yn mhlith cynifer. Un go ryfedd oedd hwn, ac nid yw yn ymddangos fod ei frawd fawr gwell, os cystal. Mae yn anhawdd gwybod i sicrwydd pa beth a'i tueddodd i geisio gan Iesu gyfryngu rhyngddo a'i frawd. Nid oes un lle i gasglu ei fod yn perthyn i'r Iesu, nac yn un o'i ddysgyblion. Nid oedd Iesu o berchen etifeddiaeth ei hunan, nac yn un swyddog gwladol, nac mewti urddau eglwysig yn ol syniad ei oes. Dichon mai wedi teimlo rhyw awdurdod yn ngeiriau yr Iesu yr ydoedd, ac wedi clywed am y gwyntoedd, a'r môr, ac ysbrydion aflan yn ufyddhau iddo, ac iddo gasglu fod digon o awdurdod yn ei lais i beri i'w frawd ufyddhau a rhanu, gan nad pa mor gyndyn ydoedd. Dichon ei fod wedi bod mewn cyfraith, ac wedi methu cael cyfiawnder, a'i fod yn argyhoeddedig y gwnaethai Iesu gyfiawnder ag ef hyd y gallai. Neu dichon nad oedd ganddo fodd i fyned. i gyfraith ac i gyfarfod treuliau cyfreithiwr. Neu dichon mai rhy gyblyddlyd oedd i fyned i draul cyfraith, a'ifod wedi clywed am Iesu yn gwneudpob petham ddim, 21