Skip to main content

AWST, 1884. ff §#I ẅ GABT Y PARCH. W. I. MORRIS, PONTYPRIDD. Mewn ysgrif flaenorol sylwasom ar " Wrthwynebiad yr Oes i'r Beibl;" yn yr ysgrif hon gwnawn ychydig sylwadau ar " Rwymedigaeth yr Oes Vr Beibl. ' Saif y Beibl ar ei ben ei hun yn mysg holl lyfrau y byd. Llyfr y llyfrau ydyw. Saif ar ei ben ei hun yn ei ddechreuad, ei hanes, a'i ddylanwad. Mae yn gynyrch awdwyr lawer, y rhai a amrywiant mewn sefyllfaoedd, gwybodaeth, chwaeth, a phrofiad. Yn eu mysg ceir y brenin a'r bugail, y gwr cyfoethog a'r pysgotwr cyffredin, y tywysog yn ei balas a'r alltud mewn gwlad estronol, y dysgawdwr enwog a'r gwladwr dinod. Oesai y rhai hyn wahanol amserau, ac ymestynent dros y cyfnod hirfaith o ddim llai na dwy fil o flynyddoedd Bu yr ymosodiadau ar y Beibl o bryd i bryd yn ffyrnig a phendeifynol, ac eto, mae yn bodoli heddyw yr unig Lyfr cyflawn a gorphenol a gynyrch- wyd yn ystod yr amserau y cyfansoddwyd ef; yr unig Lyfr sydd wedi ei drosglwyddo î lawr i ni, yn cynwys hanes cywir o symudiadau cenedl enwog a nodedig, dair mil o flynyddoedd yn oi, a mwy na hyny; ac y mae ei ddylanwad ar y byd heddyw yn eangach a dyfnach nag erioed. Ni fu- asai y byd yr hyn ydyw oni buasai y Llyfr hwn. Yn awr, wrth ystyried Rhwymedigaeth yr Oes i'b Beibl, gallwn sylwi— I. FOD YR OES YN DDYLEDTJS i'R BED3L AM EI SEFYLLFA DDIWYLL- IEDIG UOHEL. Ceir rhai dynion yn dirmygu y Beibl fel ffynonell diwylliant meddyliol. Dywedant mai " Llyfr er diwyllio y galon a'r bywyd yn unig ydyw—ei fod yn ardderchog fel rheol ymddygiad moesol, ond yn druenus o an- effeithiol felffynonell goleunideallol." Ond y mae yn deilwng o'n sylw fod rhai o wyr dysgedicaf yr oesau yn edrych arno fel Llyfr lle y gall y talentau dysgleiriaf gael yr ymarferiad helaethaf. Dywedai Eobert Boyle, yr athronydd enwog, "Yr wyf yn defnyddio yr Ysgrythyr fel temí anghymharol, lle yr ymhyfrydaf aros i edrych ar brydferthwch, dillynder, a gogoniant yr adeiladaeth." SyrWilliam Jones a ddywedai, "Yr wyf wedi 36