Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GORPHENHAF, 1884. \lt%tfy. GAN Y DIWEDDAR HYBARCH. W. B.EES, D;D. (HIRAETHOG.) Dadguddiad i. 18. Hawdd ydyw gwybod oddiwrth y geiriau hyn pwy a'u llefarodd, er na roddir enw yr awdwr wrthynt. Ceir awgrymiadau mor eglur ac amlwg fel na raid bod yr un petrusder am y person a'u llefarodd. Nid oes yr un person allasai ddefnyddio iaith ein testyn wrth ddesgrifio ei hun, ond lesu Grist. Nid oes nac angel na sant yn y nefoedd nac ar y ddaear, sefyllfa ac amgylchiadau yr hwn ydynt yn gyfryw ag a ddynodir gan eiriau y testyn; ond rhoddant olwg gyfiawn a chynwysfawr ar haues ein Gwaredwr bendigedig. Ffurfia y testyn ran o'r hanes a rydd y dysgybl anwyl (yr unig un o'r dysgyblion oedd yn fyw ar y pryd) o'r weledigaeth ryfeddol y breintiwyd ef â hi. Bwriadwyd y weledigaeth hon i barotoi ei feddwl i dderbyn y dadguddiedigaethau oeddynt i ganlyn. Yr oedd Ioan yn alltud ar y pryd mewn ynys a elwid Patmos am Air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist, wedi ei alltudio oddiwrth ei gyfeillion a chylch ei ddefnyddioldeb, torwyd ymaith ei gymdeithas â'r eglwys, ond nid afionyddwyd ar ei gymdeithas â'r nefoedd, yr hon oedd uwchlaw rheolaeth unrhyw allu daearoL Noda yr Apostol yr amser, a desgrifia sefyllfa ei feddwl pan gafodd y weledig- aeth. Yr amser ydoedd " dydd yr Arglwydd," y Sabbath Cristionogol— agwedd ei feddwl ydoedd "yn yr Ysbryd," hyny yw, yr oedd mewn agwedd meddwl priodol i'w derbyn. Ni ellir dysgwyl yr un dadguddiad o'r nefoedd tra fyddom yn ysbryd y byd. " Y meddwl auianol sydd elyniaeth yn erbyn Duw. Nid yw y dyn anianol yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw, canys ynfydrwydd ydynt iddo ef, ac nis gall eu gwybod, canys yn ysbrydol y bernir hwynt" Tra yr oedd wedi ymgolli mewn myfyrdod clywodd lais uchel o'r tu ol iddo fel udgorn, a llefarwyd wrtho eiriau ein testyn. Cyffrodd y llais ef, a phaiodd iddo synu, ac er ymgolli o hono mewn dwys fyfyrdod, yn naturioltrodd i weled y ll.u's neu y person lefarodd wrtho, ac wedi troi pa mór synedig y rhaid ei iod pan welo^d saith canwyllbren aur, ac yn nghanol y saith canwyllbren aur un teb|||» Fab y dyn. Y mae yn dra thebyg mai testyn myfyrdod Ioan yàôè&d Iesu Grist ac amgylchiadau ei deyrnas, ac nid oedd y weledigaeth a gafbdd 31