Skip to main content

TACHWEDD, 1883. |#I $%mmff* GAN Y PARCH: T. JOHNS, LLANELLI. TARDDIAD YR ENW BEIBL. Er mwyn yr ieuainc dywedwn pa fodd y daeth Llyfr Duw i gael ei alw yn Feibl. Ar lanau yr Afon Nile, yn ngwlad yr Aifft, tyf llafrwyn. Oddeutu corsen y llafrwyn, ac yn nesaf at yr haen allauol, tyf math o groen 'gwyn, teneu. Arferai yr Aifftiaid gasglu y Uafrwyn, a datod y crwyn hyn, a'u lledu ar eu gilyud, a'u rhoddi dan bwysau, nes y deueut yn wastad (flat) a sych, a chan eu bod yn wyn, tyner, a gwydn, defnyddient hwy i ysgrifenu arnynt fel llen o bapyr. Papyrus—gúr Groegaidd—y gelwid |y llafrwyn. Tyner oddiwrtho y terfyniad us a dyma ni yn cduoi papyr. Wrth yr enw "papyr" y galwn y lleni hyn, y rhai ni wneir o lafrwyn yr Aifft, eithr o garpiau lliain jn y ielin. Yr enw wrth ba un yr adnabyddid croen teneu y papyrus oedd biblus—gair, mae yn debyg, o wreiddyn Aifftaidd. A daeth y lieni at ysgrifenu a wneid o hono i gael eu galw yn biblus. Pan roddid nifer o'r lleni yn nghyd, gelwid hyny hefyd yn Ublus, ac felly y daeth biblus i olygu " llyfr." Mae yn debyg mai dyma enw cyntaf llyfrau yn yr holl fyd. Yn raddol, fel yr oedd dynion yn dyfod i weled rhagor- iaeth Llyfr Duw ar bob llyír arall, daeth i gael ei adnabod wrth yr enw "y Biblus'''—y BeibJ—y Llyfr—sef Llyfr y llyfrau. Wrth yr enw " Beibl;' y galwn y casgliad o;r llyfrau ysbrydoledig sydd yn gwneud i fyny yr Hen Destamenr. a'r Newydd. Mae cryn hynafiaeth yn perthyn i'r enw hwn a roddir ar yr ysgrythyrau, canys yr oedd yn cael ei arferyd gan Chrysostom, Jerome, ac Augustine, tua diwedd y bedwerydd canrif a dechreu y bumed. Yr oedd y tri wyr enwog a dysgedig hyn yn golofnau * Darllenodd yr awdwr y papyr ar y " Beibl Cymra:^ " }rn y Cyfarfod Gweddi Cenadol am Hydref. Ar ol canu gyda bläs a hwyl — " Am efengyl gras a'i breintiau, Rhoddwn ddiolch byth 1 Ti," &c, &c,