Skip to main content

HYDREF, 1883. GAN Y PARCH. E. A. JONES, CASTELLNEWYDD-EMLYN. [Traddodwyd y bregeth ganlynol yn yr Undeb Cymreig yn Ffestiniog, Awst 22ain, 1S83.] " Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd tra yr ydyw hi yn ddydd í y mae y n«» yn dyfod, pan na ddichon neb weithio."—Ioan ix. 4. Yn y dyddiau hyn mae teithwyr {tourists) lawer yn myned ar hyd-a lléd y gwledydd; ond nid yw pob un o honynt fel yr Athraw Mawr, "• Yn myned oddiamgylch gan wneuthur daioni." Yn yr adnod gyntaf cawn hanes am dano Ef ar ei daith ; ac wrth fyned heibio yn canfod dyn dall o'i enedigaeth. Yr oedd ei ddysgyblion gydag Ef, ond Efe a ganfu y dyn dall. Mae pawb yn canfod y peth sydd ynddynt;—y bardd yn canfod, y golygfeydd aruchel a gogoneddus; yr amaethwr yn canfod y doldir fírwythlawn, y cnydau toreithiog, a'r anifeiliaid breision; y daearegwr yn canfod y creigiau haenedig a'u cloddelion henafol; y naturiaethwr' yn oan- fody creaduriaid lluosog, y llysiau amryfath, a'r blodau amryliw. Gwel y rhai hyn lawer o bethau ereill; ond gan weíed y gwelant, ond ni chanjydd- ant." Gwelai Crist bob peth, cydymdeimlai â phob dim. Yr oedd yn fyw deimladwy i bob rhan o'r greadigaeth ; ond yr oedd ei galon yn fwy byw i drueni, ac yn fwy angerddol am waredu allan o hono, na dim arall. "Ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a'r cystuddiedig o ysbryd." " Yr oedd yn ymofyn am lei drugarhau." Felly, Efe a ganfu y âyn dall o'i enedigaeth; ac ni allai fyned o'r tu arall heibio, pan welai rai truenus ar ymylon: y ffordd. Mae yr ymddyddan gymerodd le rhyngddo a'i ddysgybliôn yn dra awgrymiadol. Gofynasant iddo, " Eabbi, pwy a bechod, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall V Tybient y gallasai hwn fod wedi pechu mewn rhyw gorff arall, neu fod Duw yn ymweled ag anwireddau y tadau ar y plant. Ond yr Iesu a atebodd, " Nid hwnabechodd, na'i neni chwaith." Nid yw Crist yn dyweyd nad oedd hwn yn bechadur, ac nad oedd ei rieni yn bèchaduriaid, ond mai nid pechod y naill na r llall oedd achos dallineby dyn hwn. Nid gwir fod enaid yn myned o un corfi i'r llall; ac nid posibl i'r dyn gael ei gosbi â daJlineb genedigol am ei bechod ei hünan, canys nia gallai bechu cÿn ei eni, ac ni chosbir neb am bechod cyn ei gyfláwai— byddai hyny yn anghyfiawn. Mae dynion yn dyoddef am bechodau;-:eu rhieni, ac am bechodau euhenafiaid—yn ol am gènediaethau lawer. Dyma bechod gwreiddiol, ac y mae y gwreiddiau yn ymestyn yn ol am -oeŵáidi- rifedi. Mae y fath beth a thronglwyddiad moesol ac anianyddol, ae y mae 46