Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

".; : MAWRTH, 1883- êtaìriìr §tM a êúlu êm. GAN Y PARCH. OWEN EYANS, LLTJNDAIN. " Canys yr hyn ni allai y ddeddf, o herwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yn nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondeinn- if.dd bechod yn y cnawd. fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ol y cnawd, eithr yn oi yr Ysbryd.—Rhuf. viii. 3, 4. Mae y benod ardderchog hon fel blwch llawn o'r perlau mwyaf gwerthfawr a godidog. Y materion a gynwysir ynddi yw, rhagorfreintiau goruchel a gogoneddus y rhai sydd wedi eu cyfiawnhau trwy ffydd. Y mae yr apostol yn dechreu trwy ddadgan djogelwch cyfiwr credinwyr—" Nid oes gan hyny yn awr ddim damnedigaeth," meddai, " i'r rhai sydd yn Nyhrist Iesu." Fe fu damnediga*th i'r cyfryw unwaith, oblegyd " yr hwn nid y w yn credu a ddaraniwyd eisoes." Fel hyn, yr oedd damnedigaeth i gredin- wyr tra yr oeddynt yn eu cyfiwr annychweledig; ond beliach y mae y gollfarn wedi ei symud, a hwythau wedi " myned trwodd o farwolaeth i fywyd," fel nad oes yn awr ddim damnedigaeth " iddynt. " Dim damnedigaeth! O! ddedwydd sefyllfa, Crist a fn farw,—ynddo mae noddfa." Dichon fod Uawer o groesau a gofidiau iddynt eto, oblegyd " aml ddrygau a gaiff y cyfiawn ;" ond "yr hwn sydd yn credu, ni ddemnir," er ei fod yn cyfiawn haeddu ei ddamnio. " Eithr pan y'n bernir, y'n ceryddir gan yr Arglwydd, feí na'n damnier gÿda'r byd." Mae y rhai sydd yn Nghrist mor ddyogel rhag eu damuio a'r rhai sydd yn y nefoedd, er eu bod yn mhell oddiwrth fod mor santaidd a dedwydd a'r cyfryw. Pechod yw yr achos fod dynion yu cael eu damnio, ac y mae trefn gras, fel y dengys yr apostol yma, yu gwaredu credinwyr oddiwrth hwnw—oddiwrth ei gosb a'i ar- glwyddiaeth, ac hefyd oddiwrth yr holl weddillion o hono yn llwyr ac yn holíol yn y diwedd—" Canys deddf Ysbryd y bywyd yn Nghrist Iesu a'm rhyddhaodd I oddiwrth ddeddf pechod a marwolaeth." Wrth " ddeddf pechod " y golygir, yn ddiau, yr anian gref o lygredigaeth sydd yn gweithredu mor rymus ac awdurdodol mewn dynion wrth naturiaeth; ac y mae yn briodol galw yr anian bechadurus hono yn " ddeddf" am fod ei gweithrediadau