Skip to main content

Y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1880. Mèòmfy g Múion. GAN Y PARCH. D. DAVIES, HANOVER, Josüa xviii. 3: " Pa hyd yr ydych ?" Oysurus iawn yr ymddengys meibion y patriarch yn ein testyn. Wrth edrych yn ol ar yr afon donog oeddynt newydd groesi—yi- Iorddonen, a'i hymchwydd hi—saif eu Uygaid allan gan frasder llawenydd—llawenydd am eu gwaredigaeth hapus o law haiarnaidd y teyrn Aiíftaidd—a'u di- angfa ragluniaethol o gaethiwed gormesol y calon-galed Pharaoh am byth. Eyw dro yn ol o'u blaen yr oedd y Môr Coch a'i furiau dyfrllyd ; o'u hol yr oedd Pharaoh a'i gerbydau chwimwth ; o'u de a'u haswy yr oedd y creigiau ysgrythrog, a'r gelyn ar eu sawdlau yu gyru'n drwm, bron a'u dal; ond yn awr y mae holl ofnau y daith drosodd, a hwythau yn llawen- hau ar gyffiniau Canaan hyfryd, a Pbaraoh a'i lu wedi eu llyncu a'u boddi yn y Môr Coch. Wedi deugain mlynedd (oes) g bererindod mewn anial- dir, a gwersyllu mewn pebyll brau, daethant i SiloL, ac yno yr arosasant am dymhor, am ei fod yn le cyfleus. Siloh oedd y ddinas fwyaf ganolog yn yr holl wlad i osod ynddi arch yr Arglwydd. Ystyr y gair Siloh. yw teibiant, àc yr oedd mawr angen seibiant ar y genedl i wneud iawn am eu dyoddefiadau yn yr anialwch. Ni allai seibiant fod yn fwy derbyniol i neb nag iddynt hwy, canys hwy a wyddant oreu beth yw heddwch ydynt wedi bod mewn aml frwydrau; hwy wyddant oreu beth yw tawel- wch ydynt wedi morio drwy lawer tymhestl. Yr oeddynt wedi gadael y diffaethwch a'i droion, a than gysgod gwlad y llaeth a'r mêl cofient yn unig fod yr Aifft mewn bod, a'u bod unwaith wedi bod yn gaethweision yno. Yn nghaledwaith G-osen, eu hunig gysur oedd fod Duw eu tadau yn eu hamddiffyn, ac y gwnelai ryw ddiwrnod ostwng ei glust i wrando eu llefain cryf, a'u gwared o'u galar blin ; yn yr anialwch, eu hunig obaith oedd hyder cadarn ar addewid Duw—ond erbyn hyn cawsant orfoledd yn Ue cysur, a gwobr yn lle hyder. Bellach maent ar gyffiniau gwlad yr addewid, gwlad yn " llifeirio o laeth a mêl." Ac megys y gwelwn rai weithiau yn oyfarfod â rhyw dro da—yn rhy falch i gredu hyny am enyd—felly y gwelwn hwy yn anghofio eu crwydriadau, ac yn ymorfoleddu gymaint ag i anghredu am dymhor y tro da oedd wedi ffawdio iddynt. Bwytaent, ac yfent, a gloddestent gyda'u gilydd, a gwnaent yn Uawen droe ben, fel pe baent i drigo dros byth yn eu bwthynod, a Chanaan orchfygedig i aros yn meddiant y trigoiion gorchfygedig, yn lle 45