Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. HYDREF, 1880. tëfoŴtó §òix$û. GAN 7 PARCH. W. C. JENHINS, CYDWELI. [Traddodwyd y sylwadau cantynol yn Nghyfarfod Chwarterol Pontargothi, Awst 14eg, 1879, a dymnnodd y frawdoliaeth iddynt gael ymddangos j'n y Diwyoiwr.J Mat. vi. 6: " Ond tydi, pan weddiech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrwa, gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad jt hwn a wel yn y dirgel, a dil i ti yn jt amlwg, Yit Arglwydd, yr hwn a'n gwnaeth, sydd hefyd yn ein cynal a'n dyogelu. Rhanol ac anmherffaith yr adnabyddwn ni ef, ond adnebydd ef nyni yn berffaith. Gŵyr ein holl angenion, ac ewyllysia eu cyflenwi. Tystiol- aeth y gair a thystiolaeth ein cydwybodau yw, yr adwaen efe ein holl feddyliau a'n hamcanion ; a'n hymoíỳniad penaf ninau ddylai fod, pa fodd y gwasanaethwn ef, fel y mynegom ei ogoniant, ac y derbyniom mewn canlyniad les. Amlwg mai ein cysylltiad ni ag ef yw, mai ei hiU iogaeth ydym, felly llwyr a hollol ymddibyniad arno. Nid yw efe yn derbyn dim gan ddyn, ond y mae dyn yn derbyn pob peth ganddo ef. Beth bynag yw Duw ynddo ei hun, y mae yn hollol annibynolar ddyn, a pha beth bynag yw dyn, mae yn hollol ddibynol ar Dduw. " Ynddo ef yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod." Yn gymaint gan hyny ag ein bod ill deuoedd yn bersonau moesol, rhaid fod cydrhyngom gymdeithas foesol, yn gystal â pherthynas. Mae ynddo ef briodoleddau moesol, mae ynom ninau alluoedd moesol, a'r naill wedi eu creu gan feddianydd y llall. Hawl y Grewr yw gorchymyn y crëedig, a dyledswydd a braint y dyn yw ufyddhau i'w Dduw. "Efe yw ein Tad ni, ninau ydym ei hiliogaeth ef," a dylem ei " wasanaethu mewn ofn a dychryn." Cyfyd ein dyled- swyddau tnag ato i fesur oddiar ein perthynas ag ef, yn gystal ag oddiar orchymynion y dadguddiad, ac esiampl yr Iesu. Hwn yn unig allasai ddy wedyd gydag awdurdod, " Canlyn fì," a " Dysgwch genyf." Mae ei dymher, ynnghyd â'i ymddygiad, yn esiampl bywyd i bawb. Teimlai yr Ieeu ei bod yn fantais iddo eí ei hun i ymneillduo ar adegau o wydd y byd, i gymdeithasu mewn myfyr a gweddi â'i Dad; ac os teimlai efe felly, pa faint mwy mahteisiol i greaduriaid anmherffaith fel nyni ? Credwn fod y testyn wedi ei lefaru gan yr Iesu oddiar brofiad o fantait ymneillduad, yn gystal ag oddiar hawl i orchymyn ei ddysgyblion i osgoi ífyrdd rhagrithwyr. Dymunai ddysgu iddynt eu mantais o ymdebygoli idd eupen. Sylwn ar I. Wbddi ddiäoel—Ej WATyR a'i sejliav. 37