Skip to main content

Y DIWYGIWR. MEDI, 1880. Y PWYS O'U CADW.* OAN W. MEIRION DAYIES, BLAENYCOED. Nid oes eymdeithas ar y ddaear heb fod ganddi ei chynuìliadau, beth bynag íyddo'i nodwedd, pa un bynag ai gwladol, dyngarol, moesol, ai ynte crefyddol. Ar y cynulliadau y dibyna nerth, bywyd, a gweithgar- wch y cyfryw. Y mae yn anmhosibl i'r naill feddu bodolaeth heb y llall. Yn hyn, fel yn mhob peth ond pechod, wedi eu dysgu gan Dduw y mae dynion. Barnodd Awdwr natur " nad da bod" dim, mwy na "dyn, ei hunan," ond trefnodd y cwbl braidd i fod yn gasgliadoi (eollectẁely). Pe byddai i ni fyned i bob byd, at bob math o fywyd, cawn yr elfen o gymdeitha8 gynulledig, neu gasgliadol, yn rhedeg drwy yr oll; ac fel cedrwydd Libanus â'u gwreiddiau yn gymhlethedig drwy eu giiydd, iyn gwneud pob byd yn un cyfanwaith o unàeb. Y mae egwyddorion sylfaenol bywyd a gweithgarwch yn mhob cylch gan Dduw yr un fath. öallwn, i raddau pell, wedi olrhain dirgelwch dadblygiad bywyd mewn un byd, ddarllen y fath ydyw mewn bydoedd ereill. Y mae y cwbl yn cydgordio. Fel y mae byd dynol a byd angelaidd, felly hefyd y mae byd llysieuol a byd anifeilaidd; ac er mai " arall yw gogoniant" y pedwar, a bod y pellder sydd rhyngddynt yn annirnadwy, eto nid yw yn anmhosibl peidio canfod unrhywiaeth dadbiygiad yn nodweddu pob byd, ac yn rhedeg fel gwythien o'r isaf hyd yr uchaf. Os yw y glasweilt dan wadnau ein traed yn un cwlwm a'u gwreiddiau yn, a thrwy, eu gilydd, y mae angel- ion Duw hefyd uwch ein penau, yn fyddinoedd cynuiiiedig o fodau pur, ysbrydol, yn cael eu cadw gyda'u giiydd dan ddylanwad at-dyniad yr undeb mwyaf perffaith. " Cerbydau Duw," meddai y Salmydd, "ydyntugain mil, sef miloedd o angeiion." Dyna eithafíon {extremeè) creadigaeth yr Anfeidroi. Ond yr un fath yw pob byd arall. Edrychwn i'r anifeilaidd. Y mae'r adar mewn awyr, a'r pysg mewn dwfr, a'r pryfaid mewn daear, a'r anifeiliaid ar y ddaear, yn y cyffredin yn gynuiiiadau cymdeithasol. Pa faint bynag o farddoniaeth oedd yn amgylchynu awyr ymenyddiau seryddwyr fel üerschei a Newton, nid oeddynt hwy yn bell o gredu fod math o gymdeithas cydrhwng bydoedd creadigaeth Duw â'u gilydd ; ond y * Darllenwyd yr. erthygl hon ya Llandysul, yn Nghynadledd Cymanfa Pedwar Cyfundeb Gorllewinol y Deheudir; a chyhoeddir ef ar ddeisyfíad, ac yn unol â pheoderfyniad y frawdoliaeth. 35