Skip to main content

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1880. GAN Y PARCH. W. THOlffAS, WHITLAND. Sonir yn aml am gariad yn y gyfrol ysbrydoledig. Addurnir'brawddeg- au cynwysfawr yr Hen Destament yn gystal â'r Newydd ag ef. Wrtho y golygir serch y meddwl. yn ymgylymu yn anwyl, cynhes, a thyn wrth wrthddrychaU rhagorol a gwerthfawr. Y mae rhagoriaeth a gwerth gwirioneddol neu ddychymygol yn hanfodol er cynhyrfu ac angerddoli . atiad. Cael ei hud-ddenu wna os ymgylyma wrth wrthddrychau am- ddifad o'r nodweddau uchod. Y mae yn bosibl i wrthddrychau fod yn annheiiwng, ond nid yn ddiwerth. Ymgylymodd serchiadau Duw wrth ddyn pechadurus, o herwydd ei werth anesgrifiadwy, er nad oedd un gradd o deilyngdod ynddo i gael y fath ragorfaint. " Gellir ystyried cariad naill ai fel y teimlad mewnol o ewyllys da, a charedigrwydd ag y mae un bod deallol yn feddu at y llall, neu yn arddangosiad o'r earedigrwydd hwnw mewn geiriau a gweithredoedd ag sydd yn boddhau ac yn budd- ioli un arall; ond yn ei ystyr helaethaf y mae cariad yn gyfuniad o'r ddau beth uchod, sef o'r teimlad mewnol, a'r weithred allanol; mewn canlyniad ymddengys, nad yw gwneuthur daioni, na dymuno daioni ar wahan, y cwbl gynwysir mewn cariad. Dengys y darnodiad uchod fod cariad yn gyfyngedig i fodau deallgar, yn cymeryd lle yn unig rhwng personau, ac nad yw yn gymhwysadwy at bethau ; defnyddir ef mewn ystyr israddol pan ddywedir ein bod yn oaru unrhyw beth heblaw bodau deallgar." Dyna ddamodiad cryno y Cyclopcedia of Biblical Literature, gan Dr. Kitto, o gariad. Eglur yw yn ddiau mai y serch mewn gweithrediad, yn edmygu, yn mynwesu, ac yn anwylu gwrthddrychau adnabyddus yw y teimlad dymunol hwn, ag y gwyr pob dyn a dynes yn brofiadol am dano. Defnyddir bagad o eiriau ydynt bron yn gyfystyr ag ef yn y cyfieithad Cymreig o'r Beibl, am y defnyddir y geiriau "hoff" a " hoffi," megys Gen, xxt. 28 : lt Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o'i helwriaeth ef: a Rebeccah a hoffai Jacob." Can. iii. 1—3 : "Liw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais. Codaf yn awr, ac àf o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a'r ystrydoedd, oeisiaf yr hwn a hoffa fy enaid : ceisiais ef, ac nis cefais. Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch ý ddinas, a'm cawsant: gofynais, a welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?" " Gan eu hofii hwynt." " Oblegyd y 21