Skip to main content

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1880. GAN Y FABCH. R. HTJGHES, BLAENAFON, [Pregeth a draddodwyd yn Abercarn, o flaen Cyf undeb Cymreig Mynwy.] "Eithr rhyw Iuddew, a'i enw Apolos, Âlezandriad o genedl, gwr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythyrau, a ddaeth i Ephesus. Hwn oedd wedi dechreu dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y peth- au a berthynent i'r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig. A hwn a ddechreuodd lefaru yn hyf yn y synagog; a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach."—Actau xviü. 24—26. Un eglwys a wneir i fyny gan bobl Dduw drwy y cread, o'r dechreuad ac hyd byth. Mawr yw yr amrywiaeth sydd iddi mewn amryw bethau; ond er cymaint yw yr amrywiaeth yn y pethau hyny, un yw hi o ran egwyddor- ion, sef yr egwyddorion hyny ydynt yn hanfodol i gyfansoddiad eglwys; ond er mai un eglwys a wneir i fyny ganddynt drwy y cread o ran egwyddorion, eto, wrth eu hystyried fel cymdeithasau lleol, y maent yn eglioysi. Un ddaear, ond amryw gyfandiroedd ac ynysoedd; un deyrnas, ond amryw daleithiau ; ac felly, wrth ystyried pobl Dduw yn gyffredinol, uneglwys ydynt; ond wrth eu hystyried mewn perthynas i amseroedd, goruchwyliaethau, a lleoedd—eglwysi. Mae pob un o'r eglwysi hyn yn gyfansoddedig o wahanol aelodau. 0 ran rhifedi ni wna llai na dau y tro i gyfansoddi eglwys, ac nid oes mwy na dau neu dri o aelodau yn hanfodol i hyny; a phe byddent yn gynifer à hyny o ugeiniau, neu ganoedd, neu filoedd, goreu oll; ond na fydded nifer aelodau unrhyw eglwys i fod mor lluosog fel ag i fod yn aníanteisiol i adeiladaeth a defnyddioldeb pob un o'i haelodau. 0 ran cymeriad, rhaid yw i aelodau pob eglwys fod yn rhai gwir dduwiol o ran credo ac ymarweddiad. Dichon i ddyn â chredo dda fod â'i ymarweddiad yn ddrwg; ond nid tebyg yw y bydd i un â chredo ddrwg fod â'i ymarweddiad yn dda —beth bynag, y mae yn amlwg, fel yr ymddengys i mi, mai dyna ydoedd barn awdwr yr epistol at yr Hebreaid, yr hon a fynegai yn y geiriau nod- adwy hyny (a chaiffy farn hono fod yn derfynol ar y mater hwn), " Enoch, cyn ei symuo, a gawsai dystiolaeth ddarfod iddo ryngu bodd Duw; eithr heb ffydd anmhosibl yw rhyngu ei fodd ef." Ehaid yw i'r ddau—credo ac ymarweddiad v dyn—^fod yn dda cyn y byddo yn gymhwys aelod o tinrhyw un o " egíwysi y saint" (1 Oor. xiv. 33), cyn y byddo yn addas i 13