Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1880. %xm m #*%IIfk g êmìmálg (SMmwjiri. GAN Y PARCH. J. THOMAS, PONTABDTJLAIS. [Pap3'r a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Chwarterol Seion, Penhre, Chwefror lOfed, 1880, ac a argreffir ar gais unfrydòì y gynadledd.J Y mae hanes cenadaeth Brotestanaidd yn yr ugain mlynedd di- weddaf yn dangos fod yr eglwys yn dechreu teimlo ei dyledswydd tuag at y byd mewn dull nas gwnaeth erioed o'r blaen. Y mae y gallu, y dysg, y dalent, a'r ymdrech sydd wedi eu galw i'r maes y fath ag sydd o angenrheidrwydd yn rhwym o gynyrchu swm mawr iawn o ddaioni; ac y mae y newyddion sydd yn ein cyrhaedd o bob pegwn o'r ddaear yn proiì mai dyna ydyw'r ffaith. A chyfrif y cangenau, y mae y cymdeithasau sydd yn awr ar waith ar y maes cenadol yn rhifo rhai ugeiniau, ac o'r rhai hyn mae cymdeithasau Lloegr, Ysgotland, ac America yn cadw y blaen. Y mae gan bob un o'r gwledydd hyn amryw o gym- deithasau cryfion iawn, a phob un o honynt yn gwario miloedd o bunau bob blwyddyn ar y gwaifch cenadol. Y mae y cymdeithasau hyn yn gwneud defnydd o bron bob math o gyfryngau i gario y gwaith yn mlaen. Dibynir yn benaf wrth gwrs ar y prif íoddion a ordeiniodd Duw i argy- hoeddi y byd, sef " pregethu y gair." Y mae mintai y rhai a bregethant ar y maes cenadol erbyn hyn yn lluosog iawn. Gwneir defnydd helaeth iawn hefyd. o bob dull o gyfranu addysg. Ar ol cael agoriad i wlad, brysir yn union i'w llanw ag ysgolion a cholegau. Cyfrenir yn y rhai hyn aádysg fydol a chrefyddol, ac mewn llawer o honynt rhoddir cryn amser i ddysgu pob math o gelfyddydau defnyddiol. Gwneir defnydd helaeth hefyd o peddygiaeth. Yr ydys eisoes wedi sefydlu rhai colegau i'r amcanpenodol o gymhwyso meddygon i'r gwaith yma, ac y mae rhai ugeiniau o'r medr- usaf a'r mwyaf deheuig o honynt wedi eu hanfon allan yn barod. Gofelir hyd y gellir fod calonau y meddygon yma cyn eu hanfon allan wedi bod dan driniaeth y Meddyg mawr. Mae llawer o honynt wedi profi yn ategion anmhrisiadwy i'r achos da. Derbynir cymhorth mawr ìawn hefyd oddiwrth y BONEDDIGESAU yn y gwaith hwn. Y mae eu llwyddiant gydá'u rhyw yn mhob rhan o'r maes y fath nas gellid byth ei ddysgwyl heb eu cymhorth. Y mae ugeiniau lawer o honyut hwythau ar y maes yn y blynyddoedd hyn, ac y mae ffrwyth eu llafur yn destyn diolchgarwch mawr. Gwneir defnydd helaeth hefyd o Feibl-gludwyr, yn enwedig ar Gyfandir Ewrop. Y mae byddin gref o'r rhai hyn ar y maes, a gwnant eu