Skip to main content

Y DIWYGIWft. RHAGFYR, 1879. GAN Y PARCH. T. MORRIS, DOWLAIS. [Mn. Gol.—Un o'r testynau pwj-sicaf perthynol i Undeb 3rr Annibynwyr Cymreig ya Liverpool oedd, " Yr Eglwys yn ei Chymeriad Addysgol." Cafwyd papy'r gẁir ymarferol ar y mater gan Mr. Samuel, Abertawe, a siarad da wedi hyny ar y papyr. Gresyn gadael i fater mor bwysig syrthio i'r Uawr ; y mae yn werth i'w gadw yn sylw yr eglwysi. Ymgais at hyny yw y sylwadau hyn. Gwel Mr. Samuel, a brodyr ereill, fy mod yn defnyddio rhai broddegau o'r eiddynt hwy. Y maent mor bwrpasol, fel y maent yn werth eu codi a'u hail-godi i sylw. Traddodwyd y sylwadau hyn yn Brynseion, Dowlais, nos Sul, Medi 14eg, ac wele hwynt at eich gwasanaêth chwi, Mr. Gol., os tybiwch eu bod yn werth eu lle yn y Diwygiwr.] " Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisieu dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw ; ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf."—Heb. v. 12. Y mae yr apostol yn y geiriau hyn a'r adnodau canlynol yn lled lawdrwm ar yr Hebreaid, oblegyd eu hanwybodaeth yn mhethau crefydd—eu diffyg dirnadaeth o wirioneddau ystrydol. Y mae yn siarad â hwy fel rhai oedd erbyn hyn yn hen grefyddwyr, y rhai a ddylasent fod o ran aniser yn athrawon medrus ac ewyllysgar i ddysgu ereill; ond yn lle hyny, yr oedd yn rhaid myned â hwy yn ol i'r A, B, C, mewn pethau ysbrydol. Yr oeddynt yn anghyìarwydd hyd y nod yn elfenau gwybodaeth ysgrythyrol. Nid oeddynt eto wedi ddysgu y wyddor—u Y mae arnoch drachefn eisieu dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw; ac yr ydych ynrhaid ichwi wrthlaeth,acnidbwydcryf." Plantydychynngwirioneddau y Beibl, ac addysg plant raid roddi i chwi; babanod ydych, a rhaid gofalu am roddi Uaeth, ac níd bwyd cryf i chwi rhag eich lladd. Y mae genyf fwyd cryf i'w roddi i chwi, meddaiyr apostol, a dylasech erbyn hyn fod yn ddigon cryfìon i'w fwynhau a'i werthfawrogi; ond yn lle hyny, yr ydych yn rhy weiniaid o ddim rheswm i osod y fath ymborth ger eich bron. Y mae genyf bethau gogoneddus i'w dyweyd am y Gwaredwr, ond nid ydych mewn sefyllfa i allu eu derbyn—" Am yr hwn y mae i ni lawer i'wddywedyd, acjanhawdd.eu traethu,[o achos eichbod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau." Yr oedd yr Hebreaid yn cyfìawn haeddu y cerydd llym a roddai yr apostol iddynt. Yr oedd eu hanwybodaeth yn mhethau crefydd y fath, fel yr oeddynt mewn perygl i wrthgilio gyda'u gilydd oddiwrth ffydd yr efengyl; ac amcan mawr ysgrifeniad y llythyr hwn atynt oedd eu eadarnhau yn y ffydd, a'u cadw rhag tynu yn ol i golledigaeth. Y mae gwybodaeth mewn ystyr grefyddol, fel yn mhob ystyr arali, ynnerth, ac anwybodaeth yn wendid tra pheryglus, 45