Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. TACHWEDD, 1879. %MpMr §pfor, GAN Y PARCH. T. DAYIES, LLANELLI. " Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrych mewn dameg ; ond yna wyneb yn wyneb; yr awrhon yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megys y'm hadwaenir."—1 Cob. XIII. 12. " Cànys gweled yr ydym," neu gwybod yr ydym. " Yr awrhon," yn ein sefyllfa bresenol. " Trwy ddrych." Wrth syllu mewn drych gallem dybio fod ein hwynebau tucefn iddo ac nid o'i flaen. Ac nid at ein drychau gwydr tryloyw ni mae y cyfeiriad, ond at ddrychau metelaidd caboledig jr henafiaid, fel na welid y gwrthddrych y tucefn iddynt ond mewn modd tra aneglur. " Mewn dameg." Dyma yr unig le y defnyddir y gair a gyfieitHr yma dameg yn y Testament Newydd, a'i ystyr yw enigma, riddle, dychymyg, awgrym tywyll. Dim ond awgrym tywyll roddir i ni o lawer gwirionedd yn ein sefyJlfa bresenol, hyd y nod yn y Beibl. " Ond yna," tyay yw, yn ein sefyllfa ddyfodol. "Wyneb yn wyneb." Cawn yno edrych yn uniongyrohol ar bethau ysbrydol fel yr edrychwn yn bresenol ar wynebau ein gilydd, ac nid fel yr edrychwn ar ein hwynebau ein hun- ain mewn drych. " Yn awr yr adwaen o ran." Dim ond rhan o lawer athrawiaeth ddadguddir yn y Beibl, a dim ond â'r rhan hono yr ydym ni yn gyfarwydd. " Ond yna yr adnabyddaf megys y'm hadwaenir." Byddwn yn adnadnabod pethau ysbrydol yn ein sefyllfa ddyfodol, megys ag y mae Duw yn ein hadnabod ni yn bresenol; nid yn yr un graddau ond yn yr un modd. Y pwnc a welaf yn y testyn y w, Y Cyferbyniad sydd rhwng ein Owybod- aeth Anmherŷaith yn ein Sefyllfa Bresenol, a'n Gwybodaeth Berŷeithiach yn ein Sefyllfa Ddyfodol. Sylwaf fel y canlyn :— I. BÎî> EIN GWYBODAETH BRESEN0L YN TERFYNU MEWN DIROELWCH. Mae llyfr mawr a gogoneddus anian yn Uawn agored o flaen pawb. Nid 068 eisieu Oymdeithas er ei gyfìeithu, ei argrafFu, a'i anfon i'r pagan pell; ond y mae gan " bawb o bobl y byd," ac fel yr Apostolion ar ddydd y Pentecost, yn llefaru wrth bawb " yn eu hiaith eu hun yn yr hon y ganed hwyní." A rhyfeddol y darganfyddiadau mae gwyddonwyr wedi eu gwneud yn anian! Mae y fferyllydd drwy drychwalu mater wedi dargan- fod uwohlaMt tri ugain o wahanol elfenau, o ba rai mae y ddaear yn gyfan- soddedig; ao awgryma y spectrosoope fod pob byd sydd ynserenuyn.y ceuedd gwyrilas fry yn gyfansoddedig o'r un elfenau â'n daear ni, ao felly fod y Croawdwr holl-ddoeth wedi adeiladu y oyfanfyd o'r un fath ddefaydd- 41