Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. HYDREF, 1879. GAN Y PARCH. J. R. THOJMAS, BETHESDA, PENFRO. "Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef."'—Gen. iii. 15. Y mae swn brwydr yn y geiriau hyn. Y mae rhan fawr o hanes y byd hyd yma yn gynwysedig yn y gair brwydro. Dyn yn codi yn erbyn dyn, a chenedl yn erbyn cenedl, fel nad yw yr awydd am waed wedi ei ddiwallu eto. Y mae dynoliaeth wedi ceisio gosod urddas mawr ar y rhai sydd fwyaf llwyddianus i dywallt gwaed. Ond er fod llawer o ryfeloedd a son am ryfeloedd yn y dyddiau hyn, eto credwn y daw yr amser pryd na ddysgant ryfel mwyach ; ac y bydd enwau sydd yn awr mewn bri, fel meusydd y tywalltwyd arnynt lawer o waed, yn codi gwrid wrth feddwl am y gwaradwydd cysylltedig â hwy. Y mae tair brwyàr wedi cymeryd lle yn llywodraeth Duw a fyddant byth mewn coffa, yn herwydd y canlyn- iadau tragywyddol sy'n nglyn â hwynt. Y gyntaf oedd brwydr yr angelion a godasant mewn gwrthryfeì yn erbyn Duw. Yr ail oedd brwydr Satan, a dyn, a'r drydedd oedd brwydr Crist a diafol. Ni pharhaodd y gyntaf yn faith, gorchfygodd Duw yr angelion, a thpflwyd hwy allan o'u cartref baradwysaidd, heb obaith iddynt byth ddychwelyd. Y mae yr ail, a ddechreuwyd rhwng diafol â dyn yn Ëden, heb derfynu eto; meddyliwyd weithiau fod y gelyn wedi gorchfygu, ond byddai Duw yn cyfryngu ar ran dyn; ac er fod y diafol wedi llwyddo i gael llawer o ganlynwyr, eto, caifF ei lwyr orchfygu yn y diwedd. Yn y drydedd frwydr, yr hon gymer- odd le ar öalfaria, trodd yn fuddugoliaeth gyflawn o du yr Iesu. Y mae perthynas agos rhwng y tair brwydr hyn. Cwymp yr angelion, drwy y gyntaf, roddodd gyfle i'r ail; bodolaeth yr ail yn Eden, achosodd yr angenrheidrwydd am y drydedd. Oni buasai brwydr yr angelion, ni buasai neb i ymladd yn Eden ; ac oni bai i ddyn gael ei ddenu i'r fr^ydr yn Eden, ni fuasai angen am frwydr Calfaria. Y mae y cyfeiriad at y tri gallu gymerodd ran yn y brwydrau hyn yn y testyn—dyn, diafol, a Christ. Saif y wraiç, fel mam pob dyn by w, am y ddynoliaeth ; diafol oedd yr un drwg, cuddiedig yn y sarŷ, ac y mae gelyniaeth barhaol rhyngddo â'r wraig; had y wraig oedd i ysigo pen y sarft' yw yr Had neillduol. Gwelir darpariadau ar gyfer yr Had neillduol hwn yn mhob teulu, hyd ne» yr ymddangosodd yn nheulu Mair yn Methlehem. Sdh yn unig oedd yn 37