Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEDI, 1879. SDg %mû. GAN Y PARCH. D. THOMAS, TONYPANDY. Eziciel xxxyü. 11: " Yna y dywedodd wrthyf, Ha! fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dy Israel oll." Mae gwahanol ystyrion i'r gair ty yn y Beibl. Weithiau golyga adeilad— "A'rty a lanwyd gan arogl yr enaint." Pryd arall golyga breswylwyr yr adeilad—" A'r Arglwydd a darawodd Pharaoh a'i dy â phläau mawrion." Pryd arall golyga hiliogaeth—" Am ei fod o dy a thylwyth Dafydd." Pryd arall golyga feddianau—'• Pe rhoddit i mi haner dy dŷ ni ddeuwn ni gyda thi." Pryd arall golyga genedl o ddynion, a dyna yw ei ystyr yn y fan hon. " Yr esgyrn hyn ydynt dy Israel oll." Ty rhyfedd oedd y ty hwn. Bu Duw fwy o amser yn adeiladu hwn nag y bu yn adeiladu y byd. Creodd y byd mewn chwe diwrnod, ond bu ganoedd o flynyddoedd cyn rhoddi y gareg glo ar y ty hwn. Cododd y gareg sylfaen yn Ur y Caldeaid. Llusgodd hi i lawr drwy Haran, a bu am flynyddau yn ei thrwsio yn ngwlad yr addewid. ° A'r Arglwydd a ádywedodd wrth Abram, Dos allan o'th wlad, ac oddíwrth dy genedl, ac o dy dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti. Ac mi a'th wnaf yn genedlaeth fawr." Bu yr Arglwydd saith o weithiau gydag Abraham mewn ffurf weladwy—yn Mamre, ar ymadawiad Lot ac yntau a'u gilydd, pan gadarn- hawyd y cyfamod ag ef drwy aberth, pan sefydlwyd yr enwaediad, pan y bu yn dinystrio Sodom a Gommora, pan fwriwyd y gaethferch allan, a phan y bu ar Moriah yn aberthu Isaac. Yr ail gareg yn y ty oedd Isaao. Bu llawer o drin arno yntau cyn ei fod yn gymhwys i'r ty hwn. Y trydydd maen oodd Jacob. Tynwyd ef trwy yr Iorddonen, Beerseba, Bethel, Peniel, Mahanaim, a manau ereill, a'r pryd hwn y galwyd y ty yn Israel. Yn nesaf eawn y patriarohiaid yn dod i fewn, sef deuddeg mab Jacob. Bu y ty wedi hyny yn cael ei grasu a'i dempru yn ffwrnesi yr Aifft am 450 o flynyddoedd. Bu am 40 mlynedd arall yn yr anialwch. Wedi hyny dygwyd ef yn ol drachefn i Ganaan, ac yno y gorphenwyd ei addurno a'i ddodrefnu, fel nad oedd ty ar wyneb yr holi ddaear yn debyg iddo. Ynddo yr oedd yr arch a'r drugareddfa, 'llechau y cyfamod, yr allor, y bwrdd a'r bara gosod, y tân santaidd, a'r Sheoina rhwng y cerubiaid. Bu Duw ei hun yn Ben y ty am 400 o flynyddoedd, a gosododd farnwyr dano 29