Skip to main content

Y DIWYGIWR GORPHENHAF, 1879. Ẅìmtty. [Ysgrifenasom y Byrdraith canlynol ar gais Cynadledd Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Isaf Sir Gaerfyrddin, a darllenasom ef yn Nghynadledd y Gymanfa Sirol, yr hon a gynal- iwyd yn Bethlehem, St. Clears, Mai 20fed, 1879, a chyhoeddir ef yu y Diwtgiwr, ac yn llyfryu ar gais y gynadledd.—Gol.] Mae hi yn anhawdd i roddi darnodiad cyflawn a boddhaol o'r fath beth amrywedd ac aml-gaDgenog â defodaeth. Boddlonaf ü drwy yn unig ddywedyd mai yr hyn a ddeallaf wrthi yw, Defod afreidiol mewn arwydd, arddangosiad, neu arferiad, mewn cysylltiad ag addoliad crefyddol, heb awdurdod drosti yn Ngair Duw, ac yn cael ei chollfarnu gan reswm goleuedig, yn tueddu i ddinystrio ysbrydolrwydd crefydd bersonol, drwy ddenu meddwl yr addolwr at y gweledig, ac, o ganlyniad, yn iluddiaa llwyddiant yr efengyl yn iachawdwriaeth dynion. Alae defodaeth grefyddol yn ymgrynhoi yn benaf o amgylch Swper yr Arglwydd. Haerir gan offeiriaid crefyddau sefydledig gan gyfreitliiau gwladol, fod cnawd agwaed Crist, mewn rhyw fodd cyfriniol, yn bresenol yn y bara a'r gwin, fod y gweinyddwr yn olynydd i'r apostolion, a bod yr elfenau yn aberth ; ac felly gwnant fwrdd y cymundeb yn allor, y gweinyddwr yn offeiriad, a'r cymunwyr yn cannibah gwaeth nag anwariaid Affrica a gwylltiaid Ynysoedd y Môr. Ac er mwyhau gwerth yr aberth tybiedig, a derchafu yr offeiriadaeth, arferir defodau rhwysgfawr—addurnir yr eglwysi â delwau o bob llun—gwychir yr offeiriaid â gwisgoedd cylchfrithion, mawrfrithion, a mânfrithion—llosgir canwyllau ar yr allor hirddydd haf— cenir clychau bychain a mawrion—mwngialir gweddiau Pabyddol—gwneir i arogldarth esgyn yn dorcb.au oddiamgylch yr allor, a derchefìr yr elfeDau cyfuwch â phen y gweinyddwr er cymhell y gynulleidfa i addoli y bara-dduw. Dywedir gyda llawer o briodoldeb mai hanes cyfeiliornad yw y gwrth- brawf goreu iddo ; ac yr wyf fìnau yn y byrdraith hwn yn amcanu olrhain cyfodiad defodaeth yn yr eglwys Gristionogol. Ni chaniata amser i mi wneud rhagor na chymeryd cipdrem frysiog ar y pwnc, fel y rhaid i'r olrheiniad fod yn ôr-fyr. Ni chyfarfyddwn wrth ddarllen y Testament Newydd â dim tebyg i ddefodaeth yr oes bresenol yn cael ei arfer gau yr apostolion, nac yn yr eglwysi a blanasant yn eu hamser hwy. Ni chawn 25