Skip to main content

Y DIWYGIWR. MAI, 1879. \m\. Hprgmt j$mgmf §úỳtùixty-$xü. GAN Y PARCH. J. DAYIES, TAIHIRION Bbo Morganwg yn briodol yw y llain tir sydd ar y llaw ddeheu i'r brif heol rhwng Penybont a Chaerdydd. Mesura o hyd lawn 20 milltir, ac o led yn y man lletaf rhwng yr heol a'r môr, tuag wyth milltir. Mae gan yr Annibynwyr bump capel a phedair o eglwysi, a hyny yn unig a geir yr lioll ffordd rhwng y ddau le. Bu eglwys yn Dinas Powis am gryn dymhor flynyddoedd yn ol, ond ni bu ganddi gapel- Cafodd yr eglwys hono ei melldithio â gweinidog digymeriad, ac o'r diwedd darfu yr achos, ond y mae pedair eglwys yn y cylch, fel y crybwyllwyd, sef Carmel Tresimwn, Penarth, Nurston, a Bethesda-y-Fro, a'i changen yn Llanilltyd-fawr. Gan mwyaf tir bras, cynyrchiol o lafur, gwair, maip, &c, yw y Fro, a digon priodol y gelwir hi "Gardd Cymru." Ceir yma ambell balas hardd a chostus. Bychain gan amlaf yw y plwyfì. Ceir yma nifer luosog o fân bentrefi, a gelwir ambell un o honynt yn Llan y peth hyn neu Llan y peth arall, pryd nad oes na chapel na llan yn agos iddynt, tai tô gwellt hen ffasiwn, ac ambell bentreí o ffermdai a bythynod gweithwyr blith draphlith hwnt ag yma. Y diweddar Barch. Thomas Williams, yr emynwr melus o Dreffleming, fel yr ymddengys, ddechreuodd yr achos yn Bethesda, yn y flwyddyn 1797. Buwyd yn bwriadu caei y capel yn mhentref 8t. Athan. Dywedir y cawsid tir yno i adeiladu capel am dditn, ac ni wyddys paham y rhoddwyd y bwriad i fyny, os nad hyn—y tybid y dylesid, er mwyn mantais yr achos, gael lle mwy canolog. Mae Bethesda lle y mae yn y man mwyaf canolog allesid gael rhwng y gwahanol bontrefi. Agos yr un faint o ffordd sydd iddo o St. Athan, Treffleming, Llanfaes, Treberferad, &c. Elai pobl yno o gryn bellder yn amser Mr. Williams—o Lanbedr, St. Nicholas, Pendeu- lwyn, &c. ; a mawr oedd eu sel dros y lle, ac yn neillduol dros eu gwein- idog. Pregethwr tanllyd, toddedig, hynod o efftìithiol oedd Mr. Wilìiams. Nodweddid ei^bregethau ag ymadroddion a syniadau ysgrythyrol, a pHob amser yn nodedig o fyr—o ugain mynyd i haner awr pan hwyaf. Úadawai ei wrandawyr gan amlaf mewn gorawydd am ei gly wed drachefn. Fel y dywedai un, " Codai y bwyd yn ei ^^8,'' ond nià wedi digoni ei wran- dawyr; ac efallai fod hyn yn cyfrií mewn rhan am eu mawr awydd i'w