Skip to main content

Y DIWYGIWE. EBRILL 1879. f öj^ $,n$\ŵM i gifrórìrar Hgtar^ ga&iìr fäälliara, to*fa|ifokta* GAN Y PARCH. D. AVAN GRlFFITH, TBOEDRHIWDALAR. [Traddodvryd y bregcth hon ya Nhroedrhiwdalar, Sabbath, Medi 6ed, 1874. Addewais ar y pryd y gwnawn ei cliyboeddi; ond pan addewais, ni wyddwn mai arnaf fi y disgynasai j gwaith o ysgrifenu Cofiantyr Hybarcli Dad. Pan ddaeth hyny i'm rhan, bwriadwn gy- hoeddi y bregeth yn y Cofiant; ond cliwyddodd i fwy o faintioli nag y bwriadwn iddo wneud heb y bregeth, am hyny y cyhoeddir hi yn y Diwygiwe, a hyny gymaint o amser wedi y cafodd ei thraddodi.—D. A. Griffith.] Actau xiii. 36 : " Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hucodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth." 1 Cor. xv. 53: " Rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb." Priodol iawn y gallwn ofyn yn ngeiriau Zeohariah, " Eich tadau, pa le y maent hwy î A'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth ?" Awgrymir y gofyniadau hyn yn fwy naturiol ar rai adegau nag ereill, Awgrymwyd hwy i'r proffwyd pan lefarodd y geiriau, ac awgrymir hwy i ninau yn bresenol. Y mae y tadau wedi, ac yo, dianc, y proffwydi wedi, ac yn, ein gadael. Syrthia'r tadau, gan nad pa mor anwyl ydynt, coliir y proffwydi, gan nad pa mor wasanaethgar ydynt. Nid ydynt mwy nag ereill i fyw byth ar y ddaear. Cawsom brawf o hyn yn symudiad yr hwn ydoedd megys tad ì ni yn y lle, yr hwn fu yn broffwyd Duw yn ein plith am lawer o flynyddoedd; 'ie, bu felly i genedlaethau cyn geni llawer o honom. Ond " efe a fu farw," "a'i le nid edwin ddim o hono ef mwy." Teith- iodd lawer am ûynyddoedd meithion. Bu lawer gwaith yn mhob cwmwd yn mron yn Ne a Öogledd Cymru, ac yr oedd yn ymwelydd groesawgar yn mhob man Ue yr elai. O'i holl deithiau, arferai ddychwelyd, a hoff oedd ganddo gyrhaeddyd Tanyrallt yn ddyogel; ond erbyn hyn y mae wedi myned i daith lawer pellach—taith y siaradodd lawer yn ei chylch, ar gyfer yr hon y parotodd ar hyd ei oes faith, ac o'r hou ni wiw ei ddysgwyl i ddychwelyd. Aeth ymaith ar ol cyfeillion lluoaog ac anwyl ganddo ef, y Oyfaiil goreu, yr hwn a wasanaethodd yn ffyddlon a didwyll am oes hir. Ond os ydyw wedi ein gadael am byth, da genym feddwl ddarfod iddo 13