Skip to main content

Y PIWYGIWR. MAWRTH, 1879. GAN Y PAROH. J. DAYIES, TAIHIBION. Dywedodd íy hen gyfaill lawer o bethau gwreiddiol a tharawiadol ya ei ddydd ydynt, ao a fyddant, ar lafar pobi y Fro, ac a drosglwyddir i lawr o genedlaeth i genedlaeth. Trueni osnad oesrbywan ag y fuyn ei wrando Sabbath ar ol Sabbath wedi cofuodi ei ddywediadau ffraeth, miniog, a phwrpasol. Yr wyf am osod ychydig o'r hyn wyf yn gofio o'i bregethau ar dudalenau y üiwtcuwr, gan obeithio y caiff y darllenydd gymaint o bleser a mwynhad wrth eu darllen ag a gafodd llawer o honom wrth ei wraudo ef yn eu traddodi. Yr oedd yn rhaid ei wrando ef mewn trefn i gael syniad iawu ara dano fel pregethwr. Yr oedd, er mor nodedig o wahanol i bawb yn ei ddull, ei lais, ei oslef, ei aceniad, a'i barabl, eto yn un anhawdd iroddi darluniad o hono. Rhaid oedd ei wrando mewn trefn i gaél syniad cywir am dano fel pregethwr. Gellir rhoddi ei eiriau a'i frawddegau ar bapyr, ond dim o'i neill- duolion fel pregethwr. Ar ol darllen ei destyn, odid na ddywedai rywbeth a dynai sylw yr holl gynulleidfa, a byddai yn lled sicr o gadw eu sylw hyd y diwedd. Rhoddir yr un ganlynol y tro hwn :— Marc iv. 38: " Ac yr oedd efe yn y pen ol i'r llong yn cysgu ar obenydd; a hwy a'i deff- roisant Ef, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, a'i difater genyt ti ein colli ni ? " Cawn hanes yma am Ieeu Grist a'i ddysgyblion yn myned dros For Galilea. Llyn mawr ydoedd tua 15 milltir o hyd ac o led, a'r Iorddonen ynrhedeg trwyddo. Tebyg ydoedd i lyn Geneva. Gelwid ef Mor Gaülea a Tiberias, a Llyn öenesaret. O gylch hwn y treuliodd Iesu lawer o'i amser iddwyn yn mlaen ei weinidogaeih, y gwnaeth lawer o'i wyrthiau, y traddod- odd lawer o'i bregethau, ac y galwodd ei ddysgyblion. Wedi gorphen pre- gethuy tro hwn, dyma Iesu yn dyweyd wrth ei ddysgyblion, " Awn dros- odd i'r tu draw, i'r wlad gyferbyn yr ochr arall." Mae gwíad tudraw i'r Wlad hon; oes, y mae tudraw i amser, i bleser, a gofid, nefoedd neu uffern. Yr ydym ninau yn rhwym, yn bound, i ryw wlad. I ba le ? " Gollyngodd y dyrfa ymaith.'' Rhaid i ninau ollwng rhyw bethau ymaith os mynwn gyrhaedd y nefoedd. Cyfododd yn dymhestl ar y fordaith. Gallwn ninau daysgwyl tywydd garw. Yn eu dychryn gofynodd y dysgyblion, " Àthraw, ai difater genyt eiu colli ni, ao nid oes genyt ofal am danom ?" Oerydd- odd Ieau y gwynt. Yr oedd Iesu yn deaìl aniau yn dda. Efe oedd y