Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. GORPHENHAF, 1878. HaẀtó fefgìẀ0l. GAIT Y PARCH, H. A. DAVTES, CWMAMAN, MORGA.NWG. Gellir canfod yn eglur yn ymddygiad rhai crefyddwyr nad yẁ pob gwir- ionedd dadguddiedig adnyfol mor dderbyniol â'u gilydd ganddynt. Mae y rhanau hyny o'r ysgrythyrau ag sydd yn darluniocariad Duw/yn ei.Fab, írraslonrwydd trefn iachawdwriaeth, a'i barodrwydd i faddeu anwiredd, eamwedd, a pheehod, yn dderbyniol iawn; ond braidd nad ystyriant mai peíh annoeth, os nad anghrefyddol, yn Paulac ereill ydyw son am gyfranu, casglu, ac haelioni crefyddoJ, wrth ddiweddu rhai o'u hepîstolau ag sydd mor gyflawn o gyfoeth a chysuron trefn y cadw. Gan fod yr eglwys yn cael ei gosod allan dan y gymhariaeth o gorff Crist yn yr ysgrythyrau, y mae yn bwysig fod ei grasusau yn weddol gyfartal er mwyn harddwch a defnyddioldeb. Nid oes dim yn fwy amlwg hag fòd corff ag sydd yn anghyfartal o ran ei aelodau, yn llai ei ddefnyddioldeb, yn ogystal â Uai ei harddwch ; o ganlyniad, yr eglwys hono ag sydd yn fwyaf cyfartal o ran ei grasusau sydd harddai", a mwyaf defnyddiol a dylanwadol yh y byd. Y mae rhai personau yn or-selog gyda rhyw ranau o wasanaeth y cysegr, ond gwylltiant a chynhyrfant i waeiodion eu natur santaidd (?) pan sonir am gasglu a chyfranu, yr un fath yn union â phe byddai y rhan hono yn rhywbeth a gynlluniwyd gan y diafol i ysbeilio plant yr Arglwydd o'r mwynhad nefol a deimlant yn moddion gras. Cyfnewidiodd y naill weinidog öulpud â'r IIa.ll yn ddiweddar er mwyn cael cyfleus»dra i gasglu at ei gapel, ond pan ddeallodd nad oedd ei'fwriad wedi ei wneud yn hysbys i'r gynull- eidfa, meddyliodd mai doethineb fuasai iddo beidio son am gasgliad y pryd hwnw, gan obeithio y cawsai gyfle ar ol hyny. Wedi i'r pregethwr °rphen y gwasanaeth, aeth brawd yn mlaen ato, a mawr fel y canmolai y bregeth ; yr oedd wedi mwynhau ei hun yn neillduol, a gobeithiai na fyâdai yn hir cyn talu ymweliad âhwy drachefn. " Yr oeddwn," meddai yntau, " wedi meddwl gofyn eich ewyllys da heno at leihau dyled ein capel, ond gan na ddarfu i Mr.------hysbysu fy mwriad i'r gynulleidfa, Jûeddyliais mai doethineb fuasai gadael hyny hyd ryw adeg fcarall." ^wnaethoch yu gall iawn," oedd yr atebiad, " oblegyd pity fuasai sPmUo pregeth dda â chasgliad." Yr oedd barn y brawd gwir greIyddol;(?) "Wnw, ag oedd newydd roddi yn y bank £700, am ysbrydolrwydd a chysegr- edigrwydd cyfranu at achos crefydd, yn amheus iawn. Meddyliai Paul 0(1 8on am gasglu a chyfranu at achosion crefyddol mor gysegredig ag 25