Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1878. f §g& Hftm p ígfc £&. GAN Y PARCH. D. WILLIAMS, RHYDYBONT. " A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd." Dyna farn Awdwr natur am ei waith ei hun; ond y mae llawer o'i greaduriaid rhesymoì yn barnu yn wahanol. Mynych y gofynir gan lawer o ddynion mewn ysbryd grwgnachlyd, a meddwl amheugar, "Paham y creaist holl blant dynion yn ofer?" " Pa fudd sydd i'r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio ? " Cyfyd hyn yn ddiau oddiar anwybodaeth y meddwl, a drygioni y galon. Pa fwyaf cydnabyddus y byddom â gwaith y Oreawdwr, mwyaf oll o brofion o ddaioni a welwn yn y greadigaeth. Wrth fyfyriò ar y greadigaeth, yr ydym fel yn dyfod o hyd i deml fawreddog, yn yr hon y mae y ffenestri, y drysau, y colofnau, yr addumiadau, a phob peth yn cyfateb i'w gilydd ; ac y mae yr holl olygfa yn naturiol arwain y meddwl i deimlo parch at, a hoffder yn, y CynlJunydd doeth, a'r Adeiladydd galluog, er heb wybod dim am dano, ond yr hyn sydd amlwg yn ei waith. Edrychwn ar gadernid y sylfaen, eangder y ffurfafen, amrywiaeth y golygfeydd, a gogoniant y goleuadau bychain a mawrion a grogant uwch- ben. Mor brydferth yw'r afon ddyfrhaol, y ddol ffrwythlawn, y goedwig dewfrig, a'r mynydd cadarn ! Mae y llawrlen werdd sydd wedi ei thaenu o dan ein traed yn dedwyddu ein mynwes, a'r gweitbgarwch didor a welir ac a glywir o'n cwmpas yn difyru ac yn ysgafnhau ein hysbryd. Mae murmur yr afon, suad y dail, cân yr aderyn, a rhuad y llew, ÿh cyfansoddi peroriaeth ddymunol, ac un ac oll yn cyd-dystio mai da y gwnaeth Duw bob peth. Mae cyfansoddiad y ddaear yn dangos daioni. Mae hanes oread a ffurfiad y byd, fel y mae yn ysgrifenedig ar ei haenau cyfansoddol a'r creigiau gwahanol, yn dangos mawr amryw ddaioni a doethineb y Creawdẅt. Dyna y graig a elwir gwenithfaen (granite) yn sylíaen gadarn arbauny mae yr holl greigiau ereill wedi eu gosod; feì, er fod Duw wedi sëilio y ddaear ar y môroedd, a'i sicrhau ar yr afonydd, eto, teimlwn yn hollol dawël ^rth orphwys ar y creigiau cedyrn a'r bryniau oesol. Ond y mae y creigiau, nid yn unig yn sylfaen safadwy i ni osod ein hadeiladau arnynt, a gwneud i ni deimlo yn ddiofn ynddynt, ond hefyd yn goffrau trysorau amrywiol a gwerthfawr i gael eu darganfod gan ddynion mewn gwahanol °esau. Ymddengys yn bur Bicr fod y creigiau yn eu ífurfiad cyntaf, a'u sefyüfa naturiol, yn gorwedd yn wastad y naill ar y llall, ond y mae rhyw ifSJL