Skip to main content

Y DIWYGIWR. ~ HYDRJF^77T ëlfûwu §ltyWvmt fefgìrkl GAN Y PARCH. T. G. JENKYN, PONTYPRIDD. Mjle tystiolaeth haneswyr, a'n calonau ein hunain, yn ddigon o brawf fod y byd wedi gadael Duw, a bod addysg o bob math wedi methu a'i wellhau ond i raddau neillduol. Amcan da sydd gan y llywodraeth, sef addysgu yr holl genedl. Ond a oes rhyw debygolrwydd yr arweiniant y werin i'r ffordd iawn ? Ai nid dynion yw y llywodraeth o wahanol alluoedd a thueddiadau, a'u tueddiadau gan amlaf yn arwain eu galluoedd ? Nid oes yr un o honynt yn berffaith, a chaniatau fod eu hamcan yn gywir; felly deilliou yn arwain deiliion ydynt ar y goreu. Mae rhai am osod crefydd yn llaw seneddwyr ein gwlad—i dynu rheolau, ffurfìau, a chredoau, a ninau i fyw wrth y cyfryw. Ond a oes sicrwydd mai o'r senedd mae diwygiadau gwladol a chrefyddol i ddyfod i'r werin ? Beth yw deddfau ? Ai nid teimladau un dosbarth sydd â hawl uwchlaw dosbarth arall o ddynion ydynt ? Cymerir yn ganiataol mai y seneddwyr yw y dosbarth mwyaf gwybodus yn y wlad. Ond a ydyw eu deddfau yn profi hyny bob amser ? Mae chwyldroadau teyrnasoedd, a'r cyínewidiadau parhaus wneir yn ein llywodraeth ninau, yn proíi nad ydynt; felly rhaid cael rhywbeth heblaw gallu y wladwriaeth i wella y byd. Beth yw yr holl systemau sydd wedi eu gosod i fyny yn y byd, ond ffrwyth meddwl athronwyr o wahanol feddyliau, ac felly yn cymeryd gwahanoi gyfeiriadau i chwilio am berffeithrwydd? Mae eu hopiniyuau hwythau eilwaith yn dibynu ar dystiolaeth íwy neu lai boddhaol ? Nid yw yr holl gyíundrefnau gwladol, moesol, a chrefyddol, ond cydymgais gallu dynol at bethau a chyfeiriad na wyddant ddim am dano—yn ymbalfaiu yn y tywyllwch heb fawr gobaith i gyrhaedd y porth sydd yn arwain i'r goleuni; damcanu maent ar y goreu, íelly rhaid troi i ryw gyfeiriad arall. Fel mae goleuni yn dyfod i'r ddaear o'r tuallan iddi hi ei hun, felJy inae goleuni a by wyd yn dyfod i'r enaid o'r tuallan i'r gallu dynol. Wedi i'r meddyliau mwyaf fu yn y byd erioed, ac o dan y manteision goreu, fethu a'n dwyn yn ol i ffafr Duw, " Duw addan- fonodd ei Fabi'r byd yn nghyff'elybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd.'' Cychwynwyd y cynllun dan yr an- fanteision mwyaf anffatriol i'r oiwg ddynol; dechreuwyd yn mhlith y dos- barth isaf, a thlodion o'r mwyaf dinod oedd rhai o'i thystiolaethwyr. 37