Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*. Y DIWYGIWR. MEDÌ718777 fMtogÄrfJ fel ftafof to WitÌMtìẁ $M- GAN T PAROH. R, MORGAN, BETHLEHEM, ST. CLEARS. •' À.c y mae genym air sicrach y proffwydi; yr hwn, da y gwnewch fod yn dal arno, megys ar ganwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll. hyd oni wawrio y dvdd, ac oni chodo y seren dáydd yn eich calooau."—2 Pedr i. 19. Nid yw yr Arglwydd Wedi gwneud dim heb adael profìon diymwad ar ei ol mai efe a'i gwnaeth. " Y mae ei dragywyddol allu ef a'i Dduwdod yn amlwg yn y pethau a wnaed." Y mae tair cofgolofh bob amser yn tystio iddo—creadigaeth, rhagluniaeth, a gras. Mewn creadigaeth gwelir gallu ; mewn rhagluniaeth, gofal; mewn gras, cariad. Y mae creadig- aeth a rhagluniaeth yn dangos bodolaeth a sylw Duw, ond y mae gras yn ddadblygiad o galon Duw. Ehenir y tair tystiolaeth yma yn gyffredin i dduwinyddiaeth naturiol a duwinyddiaeth ddadguddiedig. Duwinydd- iaeth naturiol yw Duw yn ei waith; duwinyddiaeth ddadguddiedig yw Duw yn ei air. Yr Hen Destament sydd o reswm yw duwinyddiaeth naturiol, a duwinyddiaeth ddadguddiedig yw y Testament Newydd sydd o ffydd. Yr un Awdwr sydd i'r ddau lyfr. Cyfansoddwyd hwy yn ddau lyfr, oblegyd yr oedd un yn rhy fychan i ddangos y peth ag oedd yr Awdwr am ei egluro. Y mae cenadwri neillduol gan bob un o'r cy- írolau hyn. Y naturiol i ddangos bodolaeth Duw, a'r ddadguddiedig i ddangos ewyllys a bwriadau Duw. Dau dyst ydynt wedi eu danfon gan Dduw—natur i dystio mai un Duw sydd, a dadguddiad i ddyweyd ei Äodwedd a'i gymeriad. Gweith dyddorol yw ymofyn pa beth a ddywed y naill a'r llaü o'r tystion hyn am fodolaeth a chymeriad yr Anfeidrol. Ond cyn gwneud hyn, buddiol fyddai i ni gyfaddef fod rhai dynion i'w cael na chymerant dystiolaeth y tystion hyn heb iddynt yn gyntaf gael prawf ganddynt fod rhywbeth ganddynt i'w hysbysu am dano ag nas gellir ei gael o un ffynonell arall. Ehaid iddynt gyflwyno eu tystebau (credentials) fod ganddynt rhywbeth sylweddol i'w ddyweyd am dano. Nid oes a í'ynom yn y traethawd hwn i chwilio pa beth a ddywed natur am dano. Ond y mae genym i ysgrifenu ychydig ar y gyfran broffwydol- iaethol o'i air fei tystiolaeth i'w allu ÄT ffyddlondeb i gyflawni y peth a ddywedodd. Y mae chwilio i dystiolaeth y gair am ei Awdwr yn adeil- adol a buddiol. Bhenir y tystiolaethau dros ddwyfoldeb yr ysgrythyr- 33