Skip to main content

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1877. GAN MR. W. J. PARRY, BETHESDA. [Papyr a ddarllenwyd mewn cyfarfod o wyr icuainc.] Ceisiwn gasglu ynnghyd ychydig sylwadau ar y pwnc pwysig hwn, gan obeithio y bydd eu darlleniad o dan fendith Duw i wneud lles. 0 bob cymdeithas a ffurfiwyd erioed yn mhlith dynion, Eglwys Crist yw y ragoraf. Mae i bob cymdeithas ei sylfaenwr, ei rheolau, ei swyddwyr, a dybenion neillduol i'w cario allan drwyddi. Gall yr Eglwys Gristionogol deimlo yn anfeidrol uwch naphobcymdeithas arall yn y pedwar pethyma. Ni raid ond dyweyd mai lesu Grist yw ei Sylfaenwr i brofi y cyntaf. Yn ei rheolau mae yn fwy cariadlawn, pur, a santaidd—ei maen prawf yw yr ysgrythyrau. Êi swyddwyr ydynt esgobion a diaconiaid. Mae llawer o gyradeithasau ereill wedi eu cychwyn oddiar ddybenion gau, isel, a gwag; ond am hon mae y dybenion uchaf all ddyfod i feddwl wedi rhoddi bodolaeth iddi, sef, gogoniant Duw ac iachawdwriaeth dyn. Dyn, y creadur wnaeth wawd o Dduw, yn dyfod yn wrthddrych penaf ei ofal a'i drugaredd ! Nid yw pob dyn yn addas i fod yn aelod eglwysig ; gofynir i bob ymgeisydd wneud proffes gywir a ffydd yn Nghrist, a bucheddu yn gyfatebol. Yr hyn sydd yn ei gyfansoddi yn aeíod yw, y cyfamod a wneir rhyngddo â'r eglwys y byddo yn aelod o honi wrth ei dderbyn i'w chymundeb. Dylid rhoddi pwys mawr ar yr ymrwymiad yma, mwy o lawer na'r hyn roddir arno gan lawer sydd yn myned trwy y ffurf o'i wneud. Hwn sydd yn rhoddi hawl iddo, ar un llaw, yn ngofal, rhybuddion, ceryddon, cynghorion, yn nghyd â holl freintiau yr eglwys ; ac ar y llaw arall, i'r eglwys, yn ei ddoniau, ei alluoedd, ei wasanaeth, a'i gyfraniadau yntau. Ymrwymiad yw o bob tu, a mantais yn deilliaw oddi- wrtho i'r naill fol i'r llall. Cymerir yn ganiataol gan yr ysgrythyrau santaidd, wrth siarad am danynt, fod aelodau eglwysig yn gywir a diragrith yn eu proffes, ac o herwydd hyny y maent yn cael eu cyfenwi yn saint, ffyddloniaid, galwedigion. " At eglwys Dduw yr hon sydd yn