Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1876. ^étÿMmfy 2 §#L GAN Y PARCH. T. P. PHILLIPS, HOREB, LLANDYSTJL. f uddiol i athraw- " Yr holl ysgrythjT sydd \redi ei rhoddi gan Ysbrydoliaeth Duw, ac sydd iaethu, í argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder."—Paul. Cymerwn yn ganiataol fod i'r byd Greawdwr, yr Hwn sydd yr awrhon yn bodoli. Fod y Creawdwr hwn yn cymeryd dyddordeb yn nedwydd- wch dyn—ei fod wedi arfaethu i ddyn sefyllfa ddyfodol o fodolaeth ; y bydd y sefyllfa hono yn un o ddedwyddwch neu o drueni, yn ol telerau neillduol rhagordeiniedig gan Dduw ; ei bod yn hanfodol angenrheidiol i ddyn wybod y telerau hyn, ac y gall ddyfod i feddiant o'r wybodaeth yma yn anig trwy ddadguddiad. Ac fel credwyr yn rhoddiad y dad- guddiad angenrheidiol hwn y golygwn ymdrin ag ysbrydoliaeth y Beibl, neu yr Ysgrythyr, y pwysicaf o'r cwestiynau yn y ddamcaniaeth o ddadguddiad. Pan y mae dadleuaeth o gwmpas i'r pwnc hwn fel "gwynt nertholyn rhuthro" yn mhob cyfeiriad, er syndod a galar, y mae eglwys Dduw fel llong amgylchynedig gan fôrladron, yn agored i'r peryglon mwyaf; ond yn lle amddiffyn y llong, gwelir y dwylaw ar ei bwrdd yn ymrafaelio â'u gilydd yn nghylch ffurf a defnydd eu gwisgoedd fel morwyr. Y dyddiau hyn gwneir gormod o allanolion a seremoniau, a rhy fach o'r Beibl. " Yr holl ysgrythyr," pob ysgrythyr. Pan ysgrif- enai Paul ei epistol diweddaf hwn, yr oedd y rhan fwyaf o lyfrau y Testament Newydd wedi eu hysgrifenu, os nad i gyd, fel y mae yma gyfeiriad, nid yn unig at lyfrau yr Hen Destament, yn mha rai yr addysg- wyd Timotheus pan yn ieuanc, ond hefyd llyfrau y Testament Newydd fel eu cydnabyddid gan yr eglwysi hyny, Ue yr oedd dynion cymhwys i farnu. Sylwn ar— I. Y FFAirH o ysbrydoliaeth YB, ysgrythyeaü—"Yr holl ysgrythyr." Yn llyfr Exodus cawn hanes Moses yn siarad â Duw ar Sina—" y mynydd i gyd yn mygu," " A llais yr udgorn yn hir, ac yn cryfhau fwy- fwy," a'r genedl bechadurus ar farw gan ofn. Yn mhen deugain mlynedd ar ol hyn, gweddiai Moses, " Atolwg, dangos i mi dy ogoniant." Gtosododd Duw ef mewn agen yn y graig, tra yr elai ei ogoniant heibio. 46