Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. TACHWEDD, 1876. $ẁmtòig%ttyl. GAN Y PARCH. D. THOMAS, DOWLAIS. Mae adenedigaeth pechaduriaid yn athrawiaeth ysgrythyrol, ac yn un o neillduolion crefydd ddadguddiedig. Ond er fod y syniad a gyfleuir gan yr ymadrodd adenedigaeth i'w gyfarfod yn aml yn y Beibl, ac amryw o ymadroddion cyfystyr yn cael eu defnyddio i'w osod allan, eto ni chyfar- fyddwn â'r gair adenedigaeth ond dwywaith yn unig yn y Beibi. Cawn y cyntaf yn Matthew xix. 28, " A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, y cewch chwi y rhai a'm canlynasochl ynyr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeu- ddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel." Mae y gair adenedigaeth yn y fan hon yn golygu y diwygiad mawr y daeth lesu Grist i'r byd i'w ddwyu oddiamgylch, a'r hwn sydd yn cael ei ddwyn yn mlaen yn barhaus gan nerth a dylanwad yr efengyl, ac a barha i fyned yn mlaen ac enill tir "hyd amser adferiad pob peth." Cyfeirir yn y geiriau, "Pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant,"atdderchafiad ein Harglwydd i ddeheu- law y Tad, pan y byddai iddo dderbyn pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ehoddir addewid o dderchafiad uchel i'r apostolion, " Eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel." Mae yr apostolion wedi derbyn gorseddau ac wedi eistedd arnynt drwy yr oesau yn yr eglwys—gorseddau llawer uwch na gorseddau naturiol, gorseddau ysbrydol yw y rhai a dderbyniasant. Edrychir ar eu geiriau a'u hysgrif- eniadau o awdurdod anffaeledig gan yr holl eglwys drwy y byd hyd y dydd heddyw. Y lle nesaf y cyfarfyddwn â'r gair yw Titus iii. 5, "Trwy olchiad yr adenedigaeth ac adnewyddiad yr Ysbryd Glan." Golygir wrtho yn y fan hon adnewyddiad calon—y cyfnewidiad y mae yn rhaid i bechaduriaid fyned drwyddo er myned i mewn i deyrnas Dduw. Er na chyfarfyddwn â'r gair adenedigaeth ond yn unig yn y lleoedd uchod, cawn ymadrodion cyfystyr mewn amryw fanau ereill yn yr ysgrythyráu. Yn yr ymddyddan a gymerodd le rhwng ein Harglwydd a Nicodemus, arferir geiriau o'r un ystyr : " Oddieithr geni dyn drachefn ni ddichon efe weled teyrnas Dduw." Synodd Nicodemus yn aruthrol pan dorodd y geiriau hyn ar ei glustiau. Mae yn naturiol i ofyn beth a barodd iddo synu fel hyn ? Ai oblegyd dyeithrwch y ddysgeidiaeth o adenedigaeth ?