Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. HYDREF, 1876. €mèbẁò a €ỳmẁkttỳmi. GAN IOAN PEDR. Nid oes dim yn y byd a ddylanwada mor nerthol ar y meddwl â chymdeitha8. Gall dyn gymdeithasu â llawer, y mae'n wir, heb dderbyn nemawr ddylanwad oddiwrthynt, ond y mae rhai nas gall neb fod yn hir yn eu presenoldeb heb deimlo ysgogiad nerthol yn ei feddwl. Ond yr hyn sydd fwyaf nerthol i ddadblygu cyneddfau. a ffurfio cymeriad dyn, yw amgylchiadau bywyd. Ysgol effeithiol yn y cyffredin yw y byd. Ond gail dyn droi mewn rhai cylchoedd heb dderbyn fawr o gaboliad ganddynt. Y sefyllfaoedd a'r swyddi hyny ag sydd yn dwyn dyn i gyffyrddiad agos a mynych â'i gyd-ddynion, a hyny mewn amgylchẃdau o bwys, a effeithiant fwyaf ar ei feddwl. Dichon nad oes un cylch yn ateb yn welí i'r darluniad uchod na'r weinidogaeth. Y mae gorsedd wladol ormod uwchlaw y bobl a chymdeithas. Ymwneud â phlant y mae ysgol- feistr. Nid yw nifer dysgyblion yr athraw yn gyffredin yn lluosog ac amrywiol, ond rhaid i weinidog ymwneud â lluaws, a'r rhai hyny yn fynych yn amrywiol iawn, a'r materion rhyngddo â hwy y rhai mwyaf pwysig. Er fod llawer amgylchiad digon annymunol yn dygwydd, a llawer gwaith digon anhyfryd yn syrthio i ran y gweinidog, eto swydd ardderchog yw ei swydd. Pe ystyrid hi yn unig fel moddion coethi y meddwl nid oes ei chyffelyb yn ddiau ; ond pan feddyliom am y gwaith gogoneddus yr amcana ato, y mae ei hurddas yn ymddangos yn annhraethadwy. Mae dynion yn dueddol i siarad yn isel am bersonau na fyddbnt yn gynefin â hwy. Byddai ymgydnabyddiaeth yn sicr o newid eu tôn. Ceir ambell i ddyn na ddywed air da am neb, a'r llali yn dyweyd yn dda am bawb. Dichon fod meddwl yn dda am bawb yn niwed i gymdeithas yn ei sefyllfa anmherffaith bresenol—o leiaf o'r tu allan i gylch yr eglwys—ond yr ochr arall yn ddiau y mae dyn yn fwyaf tueddol i gyfeiliorni. Y peth dymunol fyddai, gallu a thuedd i ffurfio a mynegi barn gywir am bawb. Gwaith anhawdd iawn yw hyn, yn un peth, oblegyd fod pob dyn yn anmherffaith, er yn cynwys rhyw rinwedd yn ei gymeriad, ac o herwydd fod dyn yn gyffredin oddiar anaüu i gymeryd ì'w ystyriaeth gymeriad yn ei gyfanswm, yn aros ar ryw un gwall neu rinwedd. Peth rhwng dyn a dyn yw gwareiddiad, ac o ganlyniad nid 37