Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGI MEDI, 1876. \x fcŵ ú gírgfoM. GAN Y PARCH. J, P. WILLIAMS, ABEBSYCHAN. I Argreffir y bregeth ganlynol ar gais Cynadledd Cyfarfod Cliwarterol Myuwy, yr hwu a gynaliwyd yn Moriah, Rumni, Mawrth yr 21ain a'r 22ain, 1876.—Gol.] " Ond y raae ysbryd mewn dyn."—Job. Màe'r testyn yn crybwyll un o'r ffeithiau mwyaf pwysig—ffaifch a ddylai gael ystyriaeth ddifrifol pob dyn. Er, feallai nad oes yr un ffaith yn cael caD lleied o sylw gan y lluaws. Pe baem ond edrych ar eu bywyd a'u hymarweddiad, caem|brawf eglur (os ydynt yn credu fod ganddynt enaid neu ysbryd o gwbl) fod eu syniadau o berthynas i'w natur a'i ddyfodol yn hollol gyfeiliornus. Maent fel y dyn hwnw gynt—yn ceisio boddloni eu heneidiau â'r un.gwrthddrychau ag a ddigonant eu cyrff, ac yn dywedyd yn eu hymddygiad, " Enaid, gorphwys, bwyta, ỳf, a bydd lawen." Mae'r iaith ar unwaith yn eglur esbonio nad ydynt erioed wedi ystyried natur yrìysbryd.ajbreswylia o'u mewn. Felly, er mwyn ceisio taflu ychydig oleuni ar y pwnc hwn sylwn ar I. Nattjr yr ysbryd. Mae'r testyn, yn nghyd ag adnodau ereill, yn naturiol awgrymu fod yr ysbryd, neu yr enaid, yn rhywbeth gwahanol i fater, ac yn bodoli yn an- nibynol arno. " Mae ysbryd mewn dyn." Mae y geiriau hyny o eiddo Solomon yn cadaruhau yr un gosodiad, " Yna y dychwel y pridd i'r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef." Er fod yr athrawiaeth hon yn cael ei dysgu yn y modd mwyaf eglur yn yr ysgry- thyrau, eto yr ydym yn cael dynion, a'r rhai hyny yn cael eu hystyried yn ddynion dysgedig, yn caru y tywyllwch yn fwy na'r goleuni. Beiddiant ddywedyd yn ngwyneb goleuni cadarn ac eglur rheswm a dadguddiad mai mater yn ei ffurf uchaf o fodolaeth ydyw yr ysbryd, neu yr enaid. Pe bai gofod yn caniatau ni fuasai allan o le i ni roddi ychydig o resymau y cyfry w ddynion dros eu golygiadau. Gall y darllenydd gael golwg arnynt ya ngwaith yr enwog Dr. Noah Porter.* Ond mentrwn ddywedyd yn bresenol fod eu holl resymau, unwaith y dyosgir hwy o'r wiag fîugiol * " The Eleraents of Intellectual Science," 33