Skip to main content

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1876. nm g €xtû. GAN PROFFESWR PEDR, F.G.S. Nid wrth ei eiriau y mae mesur gallu dyn. Gwyddoni drwy brofiad y buasai llawer corach meddyliol yn gawr peryglus pe buasai ei nerth yn fesuredig wrth ei ymffrost. Gwyddom am ereill sydd yn cynllunio, ac yn addaw, ac yn bwriadu pethau mawrion, ond heb byth gyflawni. Nis gallwn feio llawer ar ddyn am gynllunio, oblegyd y mae pawb yn dymuno ac yn bwriadu mwy nag a all byth ei orphen, ond nid wrth ei gynlluniau ardderchog y rhaid ei farnu. Efallai fod syniadau ei gymydogion am ddyn yn fynegfys cywirach ar y cyfan i'w wir gymeriad na'r un o'r pethau a nodwyd ; ond nid hyny ychwaith yw gwir fesur ei alluoedd. Yr unig glorian ymddiriedol ydyw gwaith dyn. Pa beth a gyflawnodd, pa orchest a wnaeth, a pha ddylanwad a gafodd ar gymdeithas—dyna yn unig a ddengys beth oedd yn wirioneddol ynddo. Fel y byddo ei waith, felly y bydd y dyn. Y mae mewn ystyr yn wahanol gyda Duw. Ni chyfeiliornem pe dywedem fod Duw yn fwy na dim a wnaeth—yn fwy na'r cwbl a all byth ei wneud. Er cyrhaedd syniadau teilwng am yr Anfeidrol, o ganlyniad, rhaid i ni dderbyn ei dystiolaeth am dano ei hun. Gair Duw yw yr unig gyfrwng drwy yr hwn y gall dyn ffurfio meddyliau cymhwys am y Goruchaf. Tystiolaeth Duw am dano ei hun yw y Beibl. Yma y cawn ddarluniadau o Dduw a'u derchafant uwchlaw yr holl greadigaeth, ac hyd y nod y tuhwnt i ni ein hunain. Derchefir y Cristion drwy ffydd i wybrenau o feddyliau ag sydd gymaint yn uwch na'i reswm a'i ddeall, ag ydyw y ffurfafenau serenog uwchlaw arwynebedd y ddaear isod. Er hyuy, mewn perthynas i briodol- iaethau naturiol Duw, megys ei anfeidroldeb, ei hollalluogrwydd, ei dra- gywyddoldeb, a'i hollwybodaeth, y rhai sydd wrthddrychau priodol i reswm weithredu arnynt, rhaid i ddyn esgyn yn raddol ar hyd risiau dirifedi meidroldeb cyn y gall ffurfio unrhyw syniadau goleuedig am y Duwdod. Sonier a fyner am synwyr cyffredin, gwyddor yn unig a all gynysgaethu y meddwl â syniadau am fawredd, a rhifedi, a phellder, a pharhad. Trwy gymharu y mawr a'r bychain, y mwy parhaus parhaol, a'r pellaf a'r pellach,