Skip to main content

Y DIWYGIWR IONAWR, 1876. %1ÛX£VÍ. GAN Y PARCH. R. EVANS, BETHEL, ABERDAR. Gair Hebraeg yw Amen; ond y mae yn cael ei arfer yn mhob iaith dan haul yn mron. Mae hanesyn am ddau dramorwr yn cyfarfod eu gilydd ar fwrdd Uong yn y moroedd dwyreiniol, y rhai nad oeddynt yn medru un gair o iaith eu gilydd. Treiasant y naill iaith ar ol y llall o'r rhai oeddynt yn eu gwybod, ond y cwbl yn ofer. Wedi hir amser daethant i ddeall fod y naill a'r llall yn medru dau air, yr hyn a fu yn foddion i gynhesu calon y naill tuag at y llall yn fawr. Un o'r geiriau oedd " HaUeluiah," a'r llall oedd " Amen." Yr oeddynt wedi dysgu y geiriau hyn gan y cenadon yn eu gwahanol wledydd. Mae mil a mwy o bethau y grefydd Hebreig— yn ddefodau, a seremoniau, a dull gwasanaeth, a geiriau, wedi eu claddu yn mynwent yr hen oruchwyliaeth, ac nid oes un colled ar eu hol; ond y mae dau air o'i heiddo yn aros hyd yr awrhon—"Haìleluiah" ac "Amen;" ac na wawried y boreu byth pan y byddo y ddau air anwyl hyn wedi eu claddu gyda'u brodyr yn nghladdfa yr ieithoedd meirwon. Mae y gwasan- aeth a wnaethant i achos rhinwedd a chrefydd, er nad ydynt ond geiriau ; a'r gwasanaeth a wnant eto, dim ond iddynt gael eu lle, a'u harfer yn bri- odol yn yr addoliad cyhoeddus, yn haeddu iddynt fywyd anfarwol. Ac os ydyw y dywediad hwnw yn gywir—" bod pob peth yn anfarwol hyd nes gorphen ei waith," mae y geiriau " Gogoniant," " Halleluiah," ac " Amen,' yn anfarwol dragywyddol, oblegyd ni bydd iddynt hwy orphen eu gwaith tra byddo cofio am Galfaria, y groes, a'r gwaed. Fe genir ac fe gofìr am hyn byth. I. YR ARFERIAD O DDYWEYD AMEN. Mae'n arferiad hen. Mae swn henafol yn y gair ; mae swn iaith yr Iuddew crefyddol ynddo. Fe all y gair Amen ddyweyd fel y dywedodd yr hwn sydd yn ei wisgo ef yn deitl, " Cyn bod Abraham yr wyf fi." Yr oedd yn cael ei arfer yn nyddiau ein tadau a'u teidau, ac yn nyddiau eu teidau liwythau. Yr oedd yn wr enwog iawn yn amser y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru a Lloegr, pan oedd Éowland, Llangeitho; Harris, Trefeccà; a Williams, Pautycelyn, ac ereill lawer iawn, yn