Skip to main content

Y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1875. ITNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. {Parhad.) 4. Mae y gallu iamgyffred a < Iwenych bywyd a dedwyddiüch yn parhau yn y dyn- Pe buasai cin rhieni cyntafyn cael a:os yn ngardd Eden ar ol iddynt bechu yn erbyn Duw» diau y buasent yn estyn eu dwylaw at bren y bywyd. Ond rhag iddynt estyn eu llaw, a chyraeryd hefyd o bren y bywyd, hwy a yrwyd allan o'r ardd. Yr oedd y gallu hwn i estyn eu llaw yn cynwys llawer. Gwyddent, o bosibl, beth oedd blas ffrwyth pren y bywyd yn barod ; a gwyddent, drwy brofìad chwerw, beth oedi y canlyniad ofnadwy o fwyta o ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg. Yr oedd ynddynt adgofion lawer o'r hen fangre gysegredig gyntaf, ar ol eu gyru aìlan o honi am anufyddhau i orchymyn ei Pherchen ; a diamheu fod yn eu mynwcs lawer loes am eu rhyfyg a'u trosedd, a dichon hefyd ryw gymaiut o siom a difar am yr hyn a wnaed, ac ymson dystaw, pe caent ond ail gynyg a chyfle drachefn, na fuasent mor ffol, rhyfygus, a hunan-ddinystriol. Yr oedd gosod rhai i " gadw ffordd pren y bywyd " yn rhagdybied y gallu, ac yn dangos yr anmhosiblrwydd, o un tu, a'r anfoddlonrwydd, heb Gyfryngwriaeth ac Iawn, o'r tu arall. Nid oedd eu trosedd yn dinystrio eu gallu naturiol, na'u rhyddid moesol. Y maey pechadur yn teimlo ei fod yn berffaith at ei ryddid pan y mae yn fwyaf caeth i'w nwydau a'i chwantau. Y mae yn cydnaliod ei becl'od, ei fod yn cuog, ac mai arno ef ei hun y bu y bai. Gwyr ei fod wedi Ilygru ei fiordd, nad yw y ddelw arno lel cynt ; ond ni feia ei Wneuthurwr na'i dynged. Teimla y dylasai lyw yn well ; bod gallu ganddo i weled a tìieimlo ei rwymau a'i gyfrifoldeb. Mae pob dyledswydd yn rhagdybied gallu. Gallu dyn ydyw terfyn gofynion y gyfiaith. Nid yw hi yn gofyn mwy, ac nis cymer lai; cymaint ag a all dyn gyflawni mae hi yn hawlio. Nid yw pechod na gras yn llacio na thynhau goíynion deddf'. Y mae hi yn seiliedig ar natur Duw a natur dyn. Nid yn unig y mae gallu gan ddyn er yn bechadur, y mae ynddo ryw fath o chwenych- iad. Mae cariad at fywyd a bcdolaeth yn naturiol iddo ; a hyn yw y rheswm paham ỳr ysgrifena rhai mor gryf yn erbyn yr athrawiaeth o Ddifodaeth yr anghredadyn. Mae hunangaredd yn peri fod ynddo hefyd awydd am wynfyd a dedwyddwch. Ymsercha yn ddiarwybod yn yr hyn y mae efe yn dybied íydd yn debyg o weini iddo fwynhad a phleser; llafuria er parhau y ffynonell hono; a bydd ynddo barodrwydd i wncud aberth er rhynga bcdd, a dilyn rheol, yr hyn a'i boddia ef. Y mae bodolaeth holl grefyddau y byd yn profi fod mewn dyn waedd am yr ysbrydol a'rdwyfol; ac y mae eilunaddoliaeth yn ei hamryw- iol ffurfiau, heb oleuni efengyl, yn cynyg supplyo y demand. Máípawb yu ymofyn Duw rywbryd, am roddi iddo, a chael ganddo. Neu, yn ol awgrym y testyn, maent yn edrych am ffordd pren y bywyd. " Pwy a ddengys i ni ddaioni ?" Gwyr dyn eto i raddau mawr beth sydd dda, a pha beth a gais yr Arglwydd Dduw. Gwyr ei fod ef ei hun yn drosedd- wr, a bod yn rhaid heddychu â Duw, cyn y profa wir ddedwyddwch ei hun ; rhaid cael y ddelw yn ol cyn y gwel eíe fywyd. Rhaid adnewyddu y dyn er mwyn adnewyddu ei sef- yllfa : gwella ei deimlad i wella ei gyflwr ; ei gael ef ato ei hun cyn ei gael at Dduw. Nid oes genym le i feddwl fod galluoedd yr enaid wedi cyfnewid drwy bechod. Y maent yn gweithredu yn gyffelyb, ond eu bod o dan reolacth gwahanol, ac i ddybenion hunan- 45