Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. TAGHWEDD, 1875. UNDEB TR ANMBYNWYR CYMREIG. (Parhad.) 2. Mae geiriau Crist yn sefydliad yr ordinhad yn mhellach yn gwrth- brofi y traws-sylweddiad. Mae holl ffurf yr ymadroddion yn dangos fod yr Arglwydd íesu yn eu defnyddio yn syml a dirodres. Mae yn wir ei fod, yn ol arfer y dwyreinwyr, yn llefaru yn ffigyrol. Ond mae yn gofalu rhoddi cymaint o'r llythyrenol gyda'r ffigyrol ag i wnend y ffigyrol yn ber- ffaith ddealladwy i'r dysgyblion. Os yn ffigyrol y dywed efe, " Hwn yw fy ngwaed o'r Testament Newydd," dywed hefyd yn llythyrenol, " Nid yfaf o ffrwyth hwn y winwydden hyd oni ddelo teyrnas Dduw." 3. Peth arall sydd yn gwneud y traws-sylweddiad yn afresymol ac an- ysgrythyrol ydyw, ei fod yn gosod gwerth y swper fel ordinhad grefyddol i ymddibynu yn gwbl ar fwriad ac ewyllys yr offeiriad ar amser y cysegru. Os dygwydd i'r offeiriad, trwy ddiofalwch neu ddiffyg bod yn ysbryd ei waith ar y pryd, beidio bwriadu i'r bara a'r gwin gael ea troi yn gorff, a gwaed, ac enaid, a dwyfoliaeth Crist, ni bydd ynddynt ddim rhinwedd sacramentaidd; felly bydd yr eglwys o angenrheidrwydd yn cymuno yn ofer. Canys bydd y bara yn aros yn fara, a'r gwin yn win, fel yr oeddynt cyn eu cysegru ; ac felly y cymunwyr yn lle bwyta ac yfed corff a gwaed Crist, yn bwyta ac yfed bara a gwin yn unig, a thrwy hyny yn cael eu hamddifadu o ras a bywyd yr ordinhad ar y naill law, ac yn eilun-addoli yr offeiren ar y llaw arall, yn gymaint nad yw Crist yn yr elfenau o gwbl, am i'r offeiriad drwy ddiofalwch beidio bwriadu iddo fod wrth gysegru. Felly mae gwerth crefyddol yr ordinhad yn ymddibynu yn gwbl ar ewyllys a bwriad yr offeiriad, ac nid ar ei gwerth cynhenid hi ei hunan fel ordinhad o ddwyfol sefydliad. Ond palla amser i ni fanylu ar yr agwedd yma i'r ordinhad. Eto dywedwn yn ddibetrus mai pa fwyaf y chwiliwn i mewn i'r traws- sylweddiad, mwyaf hagr, afresymol, ac anysgrythyrol yr ymddengys. Mae yn annichonadwy defnyddio iaith rhy gref i'w chondemnio. Mae y fath syniad yn gwneud ordinhad ddwyfol yn beth dynol. Mae hi yn gwneud Crist byw o greaduriaid meirwon Mae hi yn rhyfygu gwthio ei hunan i le Crist yn yr iachawdwriaeth, ac yn gosod bywyd a chad- wedigaeth y byd yn gwbl at ewyllys a thrugaredd yr offeiriaAc. eto y fath yw syniadau Eglwys Rhufain am yr ordinhad dd^yyfod hon. Ac yn wir, ysywaeth, nid rhyw lawer o wahaniaeth sydd rhwng syniadau rhai cyfundebau Protestanaidd am natur yr ordinhad i eiddo Eglwys Ehufain. Yr oedd Luther yn dwyn llawn cymaint o sel dros y cyd-sylweddiad, a Chalfin dros y cyd-breaenoldeb, ag ydyw y Pabyddion dros y traws- sylweddiad. Mae y gwahaniaeth rhyngddynt yn fwy mewn swn nac mewn flylwedd. Syniad Luther oedd fod corfi a gwaed Crist yn cydfodi â 41