Skip to main content

Y DIWYGIWH. MEDI, 1875. §gkẅìr $pi [Cynwysa y traethawd canlynol sylwedd yr hyn a draddodasom yn ddiweddar ar ddull darlith yn yr Àthenaeum, Llanelli, ac mewn ychydig o leoedd wedi hyoy. Mae y pwnc yn ddigon am ddeuddeg o ddarlithiau, ond nid ydym yn cynyg gwneud rhagor na rhoddi brasltìn o'r creigiau, gan draethu yn neillduol yn yr ail ran ar ffurfiad y glô. Rhyfedd os gallwn losgi cymaint o lô heb feddwl dim am y modd y ffurfiwyd ef.—Gol.] Cyduna pawb sydd wedi myfyrio y pwnc, nad yw y ddaear yn yr un ag- wedd yn breaenol ag y daeth o law y Creawdwr "yn y dechreuad." Mae afonydd a moroedd, llosgfynyddau a daeargrynfäu, a llawer o alluoedd ereill wedi newid ílawer ar ei ffurf a'i chyfansoddiad; eto nid oedd y galluoedd hyn ddim ond offerynau yn llaw y Llywydd mawr er cyflawni ei fwriadau holl ddoeth ei hun. Pan mae yr hanesydd yn olrhain hanes gwlad neu deyrnas, chwilia hen lawysgrifau, llyfrau, traddodiadau, bathion, adfeilion, &c, ac arfera ei syn- wyr tJi sylw ei hun er ceisio cael allan y gwirionedd. Rhywbeth tebyg i hyny mae y daearegydd yn wneud pan yn olrhain y cyfnewidiadau mae y ddaear wedi myned trwyddynt—chwilia hen groniclau y creigiau. Mae yma gyfrolau lawer wedi eu hysgrifenu mewn gwahanol gyfnodau hir- feithion. Mae rhai o'r croniclau wedi eu holloll ddinystrio, ereiil wedi dyoddef yn fawr oddiwrth effeithiau amser nes ydynt braidd yn an- narllenadwy; tra o'r tu arall, mae yma gyfrolau cynwysfawr wedi eu cadw yn ddyogel yn nghrystyn y ddaear, ac y mae daearegwyr yn medru eu darllen yn Ued gywir. Fy amcan yw rhoddi braslun byr yn gyntaf o greigiau y ddaear, ac yna cyfeirio yn neillduol at ffurfìad y glo. î. BEA3LUN O GREIGIAU T DDABAE. Mae daearegwyr yn dra chyfarwydd â'r creigiau am wyth neu ddeg milltir o ddyfnder. Nid am fod dynion wedi gallu suddo pwll drwy'r creigiau i'r dyfnder hwnw, ond drwy fod creigiau sydd gymaint â hyny o ddyfnder mewn rhai lleoedd yn dyfod i'r arwyneb mewn lleoedd ereill. Dealled y darllenydd anghyfarwydd fy mod yn yr ysgrif hon yn dechreu gyda y graig iselaf, gan esgyn oddiyno i'r arwyneb ; a dealied hefyd nad wyf yn enwi yr boll greigiau sydd yn nghrystyn y ddaear yn ol y rhan- iadau manylaf a wneir gan ddaearegwyr, ac nad yw yr holl greigiau enwaf i'w cael chwaith yn mhob man dros y ddaear. 1. Tr lthfaen. Gelwir y graig hon granite yn Seisneg, oddiwrth y gair IJadin granum, sef ith, neu gronyn, o herwydd ei bod yn gyfansoddedig oí ithion bychain; a dichon mai yr enw Oymreig goreu arni yw IthfaeE. 33