Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. 60RPHENHAF, 1875. [Etholwyd y Parch. J. Davies, Ietwen, Glandwr, i lywyddu yn y gynadledd, a gynaliwyd am wyth o'r gloch yn y boreu, mewn cysylltiad â'r Gymanfa Dde-Orllewinol, yr hon a gynaliwyd yn Methlebem, St. Clears, Mai 26ain, 1875, a tbraddododd yr anerchiad canlynol. Mae yn llawen genym ei argraffu yn y Diwtgiwe.—Gol.] Gtàlltt gwerthfawr iawn yw y gallu i siarad. Ar y ddaear i ddyn yn unig y rhoddwyd ef. Gwna geiriau drosglwyddo syniadau a theimladau y naill at y llall, a dwyn dyn at ddyn. Trueni yw fod y dawn hwn yn cael ei gamarfer; a gwneir hyny yn aml. Nid allan o le heddyw, dichon, fyddai sylwi yn fyr ar gyfeillach fuddiol ae adeiladol y weinidogaeth. Dysgwyliem yn naturiol mai buddiol fyddai cyfeillach dynion y mae rhan fawr o'u bywyd yn cael ei gymeryd i fyny gan siarad. Nid ydys yn amheu nad ydyw cyfeillach gweinidogion ar y cyfan o'r natur yma, àc eto feallai y gall ychwanegu ei phurdeb a'i defnyddioldeb. T mae raaterion cyfeillach dda yn ilawer ac amrywiol. Ceir rhai o honynt yn wyddorol fscientificj ac anianol. Y mae y mater- ion hyn yn ardderchog, gan eu bod yn deilliaw oddiwrth weithredoedd yr Anfeidrol, gweithredoedd ag sydd i gyd yn ogoneddus. Ceir rhai yn hanesyddol, gwedi ei sylfaenu ar hanes. Y mae y Beibl yn cynwys llawer o hanes. Ý mae llyfrau ereill, luaws mawr, yn cynwys hanes am helynt- ion hen a diweddar dynion, a llawer o addysg a geir oddiyma. Ar bwys hanes deuir o hyd i faterion gwladol. Y mae yn ofynol siarad am y rhai hyn. A chan fod gweinidogion yn wladwyr yn ogystal ag yn bregethwyr, nid oes fai arnynt am siarad ar bethau gwladol, a rhoi i ereill bob hy- fforddiad arnynt ag a allont. Y mae yn naturiol i weinidogion wneuthur athrawiaethau ysgrythyrol a duwinyddiaeth yn destynau cyfeillach. Y mae y rhai hyn ar unwaith ar ffordd gweinidogion i siarad am danynt. Y mae yr ysgrythyr ei hun yr un—yr un yn ei chynwysiad o oes i oes; ond gall syniadau dynion am ei chynwysiad amrywio ar wahanol amserau. Ac nid yw ond rhesymol i'r rhai sydd i " fyfyrio ac aros yn y pethau hyn " i siarad am danynt. Maes eang a godidog yw hwn i gerdded drosto, a chyfeillachu arno yn fywiog gan bob gweinidog. Y mae profiad crefyddol a Christionogol yn cynwys testynau siarad teilwng à gwerthfawr. Fel hyny y gwnaeth y Salmydd pan ddywedodd, " Deuwch, blant, á mynegaf i chwi yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i'm henaid." Gallwn yn resymol siarad am ein pendertÿniadau crefyddol, a 29