Skip to main content

Y DIWYGIWR. GORPHENHAF, 1875. GAN Y PARCH. J. N. RICHARDS, PENYGROES. [Darllenwyd y Papyr canlynol yn Nghynadledd y Gymanfa Dde-Orllewinol a gynal- iwyd yn Bethlebem, St. Clears, Mai 26ain a'r 27ain, 1871, gan y Parch. John N. Richards, Penygroes, Penfro; ac ar gais y Gynadledd, cyhoeddir eí yn y Diwtgiwe.—Gol.] Mae yn anhawdd gwybod pa le i ddechreu ysgrifenu ar destyn mor eang ac amrywiol ei natur â hwn. Newidia " Nodweddion Crefyddol " yr oes mor aml a rhwydd â'r duw paganaidd Proteus. Pan dybiwn ein bod yn eu deall, newidiant eu ffurf, ymddangosant mewn gwedd newydd. Anhawsdra arall ydyw penderfynu hyd yr oes grefyddol. A ydyw yr un hyd ag oes yn ol y cyfrifìad cyffredin, sef 30 mlynedd, ai mwy neu lai ? Oanfyddwn anesmwythdra mawr yn y byd crefyddol, a hyny yn codi yn benaf oddiar yr ansicrwydd deimlir mewn perthynas i wirioneddau syl- faenol ein crefydd. Nid oes ond ychydig yn sefyll ar y ffyrdd gan holi am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, ond ymofynir am ffyrdd newydd; ac er dysgu bob amser, ni ddeuant i wybodaeth o'r gwirionedd. Mae yr ys- bryd Athenaidd i ddywedyd neu glywed rhyw newydd yn hynod gryf yn y byd crefyddol. Teimla llawer o ddynion crefyddol, rhai nad allwn amheu eu cydwybodolrwydd na'u duwioldeb, yn anesmwyth ac ansicr mewn perthynas i wirioneddau yr efengyl. Nid annhebyg ydynt i Job pan yn deisyfu cael gweled Duw, ac y dywedai, " 0 ! na wyddwn pa le y cawn ef, fel y deuwn at ei eisteddfa ef. Wele, yn mlaen yr af, ond nid ydyw efe yno; yn ol hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef; ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef; ar y ílaw ddeheu y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled." Cyffelyb i hynyna y teimla llawer gyda gwirioneddau yr efengyl. Credant fod gwirioneddau ynddi, ond er chwilio yn ol ao yn mlaen, ar y dde a'r aswy, teimlant yn anes- mwyth, methant gyrhaedd sicrwydd. Ymddygant, nid fel rhai wedi rhoi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, ond fel rhai yn gosod i lawr drachefn sail i edifeirwch. Hwyrach fod gormod o binio wrth lewys dynion ereill wedi bod, a'r byd yn gweled y ffolineb o hyny yn awr, fel mae eithafoedd yn cyfarfod yn fynych. Cwyd dynion eu hangorau, dengys pob un awydd cryf i lywio ei lestr ei hun—rhai i chwilio am borthladd newydd, ereill i aros ar fôr mawr y meddwl, i'w troi gyda phob awel wynt. Bu adeg yr ystyrid y gair anuniawngred yn anhebgorol yn y byd cre- fyddol, ond y mae bron myned allan o arferiad fel y deallid ef gynt. Yn bresenol, y mwyaf anoniawngred a ganmolir benaf gan lawer, am y tyb- 25