Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1875. VI. GAN Y PARCH. B, W; ROBERTS, YSTRADGYNLAIS. " Pa fodd y gallaf edrych ar v drygfyd a gaiff fy mhobl ? a pha fodd y gallaf edrych ar ddyfetha fy nghenedl ? " Nid oes neb o fewn y byd nad yw yn tynu darlun o hono ei hunan, a bydd hwnw yn aros yn y byd ar ei oL Os cam-dynir llinellau cyntaf y darlun, nis gellir byth ei gael yn wir ddelw o'r sylwedd. Erys fel ysgrifen Pilat, "yr hyn a ysgrifenais a ysgrifenais." Dyna wr ieuanc, neu wyryf, wedi colli y ffordd, cwympo, a chael archoll cymeriad. Saif ol y codwm ar ddarlun eu bywyd yn graith anadferadwy. Os diwygir hwynt o'u ffyrdd drygionus, bydd delw o'r cam-ŵyrad yn aros. Yn y blynyddoedd cyntaf mae y garddwr yn cymeryd gofal mawr am y planigion, rhag iddynt grachu, gẁyro, na chamu. Yn moreu oes y mae llunio dyn. Gorchwyl go anhawdd fydd llunio dyn da o blentyn drwg. Erys delw y plentyn ar y dyn. " Y plentyn yw tad y dyn." Y mae ei ddyddiau cyntaf yn index o'r hyn fydd am ei oes. Anfynych y gwelsom ieuenctyd gwastad, teimladwy a diargyhoedd, heb fod rhywbeth yn debyg ar hyd eu hoes. Os yn wamal, ysgafn, cellweirus, diofal, a difater, ychydig ragorent hyd eu diwedd. Bydd ol pen y ffordd ar ddyn pan heneiddio. Gwelsoch rhai coed yn tyfu yn geimion, a'r lleill yn tyfu yn unionsyth, er eu bod o'r un rhy wogaeth. Erbyn chwilio yn fanwl beth oedd yr achos, tyfu yn nghysgod coed uwch na hwynt yr oedd y rhai union, a'r rhai ceim- iom yn agored i'r drychin. Anwyl ieuenctyd, llechwch yn nghysgod hen goed sydd uwch na chwi. Sut agwedd hoffech weled ar eich darlun pan heneiddioch 1 Y mae rhyw fan mwy hoff, ac agwedd mwy dymunol gan bawb i fod arno ei hun. Tynwyd darlun angel yn y man a'r agwedd y dy- munai—uwchben y drugareddfa, â'i adenydd ar led, a'i lygaid yn edrych i mewn yn ddyfal i ogoniant y drefn gyfryngol. A chredaf, os oedd angel yn arfer myned i mewn i'r cysegr santeiddiolaf, ei fod yn syrthio mewn cariad ag ef ei hun wrth weled ei arlun wedi ei osod yn y fath le. Y man a'r agwedd y dewisodd Iesu Grist fod yn ei ddarlun oedd ar Galfaria yn ei boenau a'i angeu, pan oedd ergydion trymaf deddf a chyfiawn- der yn disgyn arno. *i Gwnewch hyn er coffa am danaf, cynifer gwaith bynag y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo." Tyn- 21